Cymerwyd y llun sydd ynghlwm yn y seremoni wobrwyo ac mae’n dangos: Lorna Kernahan Moore, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Dyffryn Maes Glas, Adele Thackray, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Cadw, Sarah Pevely, Curadur Cynorthwyol Aura a rhai o’r gwirfoddolwyr. Llun gan Benedict Johnson Photography Ltd.
Mae grŵp o wirfoddolwyr o Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas wedi ennill gwobr genedlaethol am eu cyfraniad tuag at wirfoddoli.
Caiff Gwobrau Marsh, a ddyfernir i Wirfoddolwyr ar gyfer Dysgu mewn Amgueddfeydd, eu rhedeg mewn partneriaeth a’r Amgueddfa Brydeinig ac maent yn cydnabod y dulliau gorau a mwyaf arloesol a ddyfeisir gan wirfoddolwyr mewn amgueddfeydd ac orielau lleol a chenedlaethol er mwyn ceisio ennyn gwir ddiddordeb y cyhoedd yn y casgliadau a’r arddangosiadau.
Dyfarnwyd y prosiect ar Abaty Dinas Basing, ‘Canfod y Gorffennol’ yn Enillydd Rhanbarthol Cymru mewn digwyddiad dathlu yn Llundain yr wythnos hon. Prif nod y prosiect oedd creu adnodd addysgol, dwyieithog, trawsgwricwlaidd diddorol a llawn hwyl ar Abaty Dinas Basing ar gyfer ysgolion. Gweithiodd grŵp o 20 o wirfoddolwyr yn ddiwyd dros gyfnod o bum mis yn datblygu pecyn addysgol a blwch o adnoddau addysgol. Roedd y grŵp yn cynnwys gwirfoddolwyr o amrywiol gefndiroedd, oedrannau, sgiliau a diddordebau gyda’r ieuengaf yn 18 oed a’r hynaf yn 80. Fe wnaeth y grŵp hefyd actio a chyfarwyddo eu ffilm fer eu hunain i ddisgyblion ei gwylio cyn eu hymweliad â’r safle Bydd yr holl ddeunydd ar gael drwy Hwb, y wefan ysgolion genedlaethol ac ar wefan Dyffryn Maes Glas.
Noddwyd y prosiect gan Cadw a chafodd ei reoli gan dîm amgueddfeydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura mewn partneriaeth â staff Dyffryn Maes Glas.
Meddai Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint
“Mae Abaty Dinas Basing yn safle hanesyddol, mynediad agored pwysig sy’n rhan o Amgueddfa a Pharc Gwledig Dyffryn Maes Glas. Mae Canfod y Gorffennol wedi bod yn brosiect partneriaeth gwych sydd wedi datblygu adnodd rhagorol ar gyfer ysgolion. Hoffwn longyfarch y gwirfoddolwyr ar dderbyn y wobr hon a hefyd ddiolch iddynt am yr oriau lawer y maent wedi’u treulio ar y prosiect.”
Meddai Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden a Llyfrgelloedd Aura: “Y mis yma mae Aura yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf ac mae’n wych bod un o’r prosiectau partneriaeth amgueddfeydd wedi ennill y wobr hon. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r gwirfoddolwyr eto ar ragor o adnoddau addysgol yn Nyffryn Maes Glas a thu hwnt.”
Mae’r wobr Gwirfoddolwyr ar gyfer Dysgu Mewn Amgueddfeydd yn ffurfio rhan o raglen o wobrau a gyflwynir gan Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh ym meysydd gwyddoniaeth, ecoleg, cadwraeth, treftadaeth, llenyddiaeth a gwirfoddoli. Mae pob un o’r gwobrau hyn yn cydnabod unigolion a sefydliadau sy’n rhoi eu hamser i wella’r byd heddiw a byd y dyfodol. Rheolir rhaglen Gwobrau Marsh mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol gan gynnwys Cymdeithas Sŵoleg Llundain. Cyngor Archeoleg Prydain, Barnardo’s, y Cyngor Ffoaduriaid a’r Amgueddfa Brydeinig.