Roeddem yn hapus iawn i groesawu Rygbi Cynghrair Cymru’n ôl i Sir y Fflint!
Dechreuodd y garfan ar eu hyfforddiant yng Nglannau Dyfrdwy 23 Hydref ac maent yn brysur yn paratoi ar gyfer rowndiau cymhwyso Cwpan y Byd Rygbi Cynghrair.
Dywedodd rheolwr tîm Cymru, Bob Wilson: “Rydym yn hapus iawn i fod yn ôl yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd sydd ar y gweill a rowndiau cymhwyso Cwpan y Byd Cynghrair Rygbi 2021.
“Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn drysor cudd oherwydd bod y cyfleusterau yno’n wych ac yn help mawr i ni baratoi ar gyfer gemau rhyngwladol.
Rydym ni wedi bod defnyddio’r cyfleusterau am beth amser nawr ac yn edrych ymlaen at adeiladu ein perthynas gydag Aura yn y dyfodol.”
Mae pawb yma yn Aura yn dymuno pob lwc i’r tîm yn y rowndiau cymhwyso sydd ar y gweill ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ôl yn y dyfodol.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon 11 Tachwedd 2018 yn Stadiwm y Cae Ras, Wrecsam.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Rygbi Cynghrair Cymru a sut i gael tocynnau: https://www.walesrugbyleague.co.uk/