Mae Chwefror 2019 yn Fis Hanes LGBT: amser i ddathlu hanes a bywydau’r gymuned LGBT!
Mae Llyfrgelloedd Aura wedi llunio rhestr o lyfrau sydd yn dwyn ynghyd themâu cydraddoldeb, dewrder, cariad a balchder i ddathlu Mis Hanes LGBT.
Mae’r llyfrau isod yn cyfuno awduron hanesyddol a chyfoes! Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y rhestr a pha lyfrau y byddech wedi’u cynnwys eich hun!
Fe allai’r rhestr fod yn ddiddiwedd, ond dyma bum teitl i daro golwg arnynt:
- Tipping the Velvet gan Sarah Waters
- Giovanni’s Room gan James Baldwin
- Orlando gan Virginia Woolf
- At Swim, Two Boys gan Jamie O’Neill
- The Price of Salt gan Patricia Highsmith. Cafodd y nofel hon ei hail-enwi dros y blynyddoedd diwethaf fel Carol.
Cofiwch: gallwch daro golwg ar y teitlau yma, a channoedd yn fwy ar ein catalog llyfrgell ar-lein! Yn ogystal, fe allwn archebu’r llyfrau mewn i’ch llyfrgell ddewisol trwy ein gwasanaeth Benthyg Rhwng Llyfrgelloedd!
Mwynhewch y darllen!
Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’r teitlau neu sut rydych chi’n dathlu Mis Hanes LGBT ar: @aura_cymru @aura_wales