Gwnewch 2019 yn flwyddyn o newid a dewch o hyd i’ch gwir botensial!
Cynhelir gweithdy cyflogadwyedd ddydd Mawrth 19 Mawrth o 1.00p.m – 6.00p.m yn Llyfrgell yr Wyddgrug!
Os ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf i’r farchnad swyddi, yn ystyried newid eich gyrfa, neu’n dychwelyd ar ôl toriad yn eich cyflogaeth, bydd y digwyddiad hwn yn cynnig rhywbeth sy’n addas i bawb ac yn caniatáu i chi gydnabod a gwneud y mwyaf o’ch cryfderau presennol yn ogystal â datblygu sgiliau gwaith newydd.
Bydd y rhaglen hon yn cynnig opsiwn amgen ymarferol i’r ffair swyddi draddodiadol, ac yn rhoi’r hyder i chi gymryd y camau yr ydych eu hangen i ddod o hyd i gyflogaeth newydd ac yn eich datblygiad proffesiynol a phersonol.
Mae ein harbenigwyr yn aros i’ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn, a bydd pawb sy’n mynychu’r digwyddiad yn derbyn gwahoddiad i fynychu sesiwn ddilynol lle gallwch gyfarfod cyflogwyr a busnesau lleol allweddol a defnyddio eich hyder a’ch pwrpas newydd i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol.
Sgiliau Gwaith
Cynhelir gweithdy cyflogadwyedd ddydd Mawrth 19 Mawrth o 1.00p.m – 6.00p.m yn Llyfrgell yr Wyddgrug
Cewch alw heibio i siarad â’n hymgynghorwyr, byddant yn gweithio gyda chi i ateb eich cwestiynau a rhoi cyngor ac awgrymiadau ymarferol i chi.
Gallwch ddewis o blith ein 6 maes ffocws allweddol:
Ffurflenni Cais
- Sut i sicrhau bod eich cais yn sefyll allan
- Pam ddylai cyflogwyr eich dewis chi – am beth y maent yn chwilio?
- Beth i’w osgoi?
TGCh
- Cymorth ymarferol gyda thechnoleg TG
- Sut i gael mynediad at safleoedd swyddi ar-lein a lawrlwytho ffurflenni cais
- Byddwch yn gadael gyda CV o ansawdd da
- Sut i greu cyflwyniadau perffaith
Cyfleoedd Gwirfoddoli
- Sut i ennill profiad gwaith hanfodol a dysgu sgiliau newydd
- Llenwi’r bylchau hynny yn eich proffil cyflogaeth
- Beth sydd ar gael i chi – lle i ddechrau?
- Beth am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned – rhowch rywbeth yn ôl
Adnabod eich Hunan
- Beth yw eich cryfderau? Byddwn yn eich helpu i ddeall beth sydd gennych chi i’w gynnig i gyflogwyr
- ‘Hafan Hyfforddiant’ gyda hyfforddwr gweithredol
- Sut i werthu eich hunan i gyflogwyr
- Beth yw eich meysydd i’w datblygu – byddwn yn eich helpu i ddeall y rhain ac yn dangos i chi beth i’w wneud nesaf.
Trechwch y Nerfau
- Sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar i’ch ymlacio a’ch paratoi ar gyfer cyfweliad
- Cynghorion syml i helpu eich cof
- Ennill ffocws a theimlo’n fwy hyderus
Sgiliau cyfweld
- Sut i baratoi – cwestiynau y mae’r cyflogwr yn sicr o’u gofyn i chi
- Sut i wneud argraff dda, sicrhewch eu bod yn eich cofio chi am y rhesymau cywir
- Cyfweld 101 – beth mae’r unigolyn ar ochr arall y bwrdd yn ei weld
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pawb yn gadael yn teimlo bod ganddynt y cyfarpar i gymryd y cam nesaf tuag at gwaith a chyflogaeth.
Derbyn Swydd
Defnyddiwch eich sgiliau, eich profiad a’ch hyder newydd i ‘Gyfarfod y Cyflogwr’ yn y digwyddiad dilynol hwn.
Dilynwch ni ar Facebook i ddarganfod y dyddiad ar gyfer y digwyddiad dilynol hwn.
Unwaith y bydd gennych y cyfarpar a’r cymorth cywir i gymryd y camau pwysig hynny ymlaen, rydym eisiau cynnig y cyfle i chi gyfarfod cyflogwyr posibl a gwneud y cysylltiadau yr ydych eu hangen. Gallwch wella eich hyder a’ch sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio a dod o hyd i’r llwybr cyflogaeth cywir i chi.