Bydd Aura Cymru yn cynnal Sesiwn Nofio Cyfeillgar i Ddementia yng Nghanolfan Hamdden Yr Wyddgrug ar 19 Awst 2019 rhwng 9.30am ac 11.00am.
Fel sefydliad, rydym yn gweithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia a gobeithiwn y bydd cyflwyniad y sesiynau nofio Cyfeillgar i Ddementia o gymorth i gefnogi unrhyw un yn y gymuned sy’n byw gyda, neu wedi’i effeithio gan, Ddementia.
Siaradom â Steven McFadyen – cynrychiolydd o’r Gymdeithas Alzheimer’s – a ddywedodd: “rydym yn falch iawn bod Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug wedi penderfynu treialu digwyddiadau nofio Cyfeillgar i Ddementia. Gall gweithgarwch corfforol ganiatáu i bobl sydd â Dementia gysylltu ag eraill, mwynhau a chadw’n iach.
O ran y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae bod yn fwy Cyfeillgar i Ddementia yn golygu darparu cyfleoedd i gefnogi pob unigolyn a effeithir gan Ddementia, yn cynnwys gofalwyr ac aelodau’r teulu. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y bobl sydd ynghlwm â rhedeg y pyllau nofio a gweithgareddau eraill yn ymwybodol o effaith Dementia a sut y gallant gefnogi pobl yn eu cymuned. Rydym eisoes wedi gweld sut y gall gwella mynediad at weithgareddau megis nofio gael effaith gadarnhaol iawn. Gobeithiwn y bydd mwy o ganolfannau hamdden yn cefnogi pobl â Dementia i barhau i wneud yr hyn maent yn ei fwynhau am mor hir â phosib.”
Ein gobaith ni yw y bydd y sesiwn yn dangos holl fanteision nofio a’r lles corfforol a meddyliol y mae’n ei annog. Gall nofio:
- Gynnig ymdeimlad o les meddyliol
- Tawelu’r meddwl a lleihau pryder
- Ymlacio’r corff drwy ei gefnogi mewn amgylchedd cymharol ddi-bwysau
- Cynnig cyfleoedd i gymdeithasu
- Lleihau unigrwydd a chyfrannu at greu ymdeimlad o le.
Mynegodd Wesley Billings, Cydlynydd Nofio Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug, ei frwdfrydedd ar ran Aura Cymru, gan ddweud: “hoffem gefnogi pobl sy’n byw gyda Dementia yn y gymuned er mwyn iddynt allu parhau i deimlo’n gyfforddus wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd y maent yn ei fwynhau. Gobeithiwn y bydd y sesiwn hon yn datblygu’n sesiwn reolaidd ar ein rhaglen pwll nofio ac y bydd yn cynyddu cysylltiadau â grwpiau Dementia ar draws holl ganolfannau hamdden Aura.”