Ddydd Llun cyntaf gwyliau’r haf, cynhaliodd tîm Datblygu Chwaraeon Aura ddigwyddiad ParkLives cyntaf haf 2019!
Menter ydi ParkLives, mewn partneriaeth â StreetGames ac mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr gael mynediad at barciau a mannau agored yn eu cymunedau lleol drwy ymgymryd ag amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau lles.
Dywedodd Daniel Williams, Cydlynydd Chwaraeon Cymunedol ac Ysgolion ar gyfer Aura Cymru: “yr haf hwn, rydym yn cynnal sesiynau ar 3 safle yn Sir y Fflint ac rydym yn gobeithio annog teuluoedd a phobl ifanc i fynd allan a defnyddio eu mannau agored yn lleol.
Y llynedd, mynychodd tua 100 o bobl ein diwrnod prysuraf ym Mharc Gwepra, ond ar ein diwrnod agored eleni, daeth tua 200 o bobl i’r digwyddiad. Roedd yn llwyddiant mawr ac rydym yn gobeithio y bydd gweddill yr haf yr un mor llwyddiannus.”
Mae’r gweithgareddau am ddim ac yn cynnwys pêl-droed, tennis, rygbi, golff a mwy!
Edrychwch ar y lluniau isod am ragor o wybodaeth am ddyddiadau ac amseroedd.