Mae Aura yn gyffrous i gyhoeddi bod gwaith ar y gweill i gyflwyno cae pêl-droed 7 bob ochr 3G newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy!


Dechreuodd gwaith ar 6 Ionawr 2020 ar ôl i Aura sicrhau cyllid o un o grantiau ‘Lle i Chwaraeon’ gan Chwaraeon Cymru. Trefnir i’r cyfleuster o’r radd flaenaf hwn gael ei gwblhau ac yn barod ar gyfer y gwanwyn 2020.
Ar draws Cymru mae mwy na gwerth £1miliwn o grantiau ‘Lle i Chwaraeon’ wedi’i rannu ymysg 118 o glybiau a sefydliadau chwaraeon i helpu i foderneiddio, diogelu neu greu cyfleusterau chwaraeon newydd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Pa un a yw’n neuadd yr ydych yn dawnsio ynddi neu’r llain yr ydych yn chwarae arno, mae cael y cyfleusterau chwaraeon cywir yn cael effaith mawr ar brofiad unigolyn.”
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura: “Mae Aura yn teimlo’n angerddol y dylid cael lle ar gyfer chwaraeon i bawb. Bydd y cyllid hwn yn galluogi i nifer fwy o drigolion lleol fwynhau budd gydol oes chwaraeon a gweithgarwch corfforol.”
Roedd Lee Breeze, Swyddog Datblygu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd yn gyffrous am y cyfleuster newydd, a dywedodd: “rydym yn falch o allu ychwanegu ein darpariaeth awyr agored cyffrous drwy sicrhau arian grant gan Chwaraeon Cymru. Ni allwn aros iddo agor ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol a chlybiau lleol i ddatblygu chwaraeon sylfaenol ar draws Sir y Fflint.”
Disgwylir i’r galw fod yn uchel iawn ar gyfer llogi cae 3G newydd; i fynegi diddordeb wrth archebu’r cyfleuster, dylech anfon e-bost at: bookings@aura.wales a chynnwys y dyddiau a’r amseroedd a ffefrir gennych.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael golwg a’r wybodaeth ddiweddaraf!
Facebook: @walesaura
Twitter: aura_wales
Am fwy o wybodaeth ar grantiau cymunedol drwy Chwaraeon Cymru, ewch i: www.chwaraeon.cymru neu www.atebionclwb.cymru