


Rhwng 10 a 14 Chwefror 2020 roedd Llyfrgelloedd Aura ynghyd â nifer o lyfrgelloedd eraill ar draws Cymru yn falch o gymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru.
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ddathliad blynyddol o ganeuon a rhigymau i blant 0-5 oed ar draws Cymru wedi’u trefnu gan Book Trust Cymru. Ei nod yw annog plant i rannu rhigymau a chaneuon yng Nghymraeg a Saesneg a’u helpu nhw i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando ac iaith cyn neu tra eu bod nhw’n dysgu darllen – mae hefyd yn ffordd wych o gael hwyl!
Fe gymerodd Llyfrgelloedd Aura ran yn y dathliadau drwy gynnal sesiynau Amser Rhigwm arbennig ar draws ein 7 llyfrgell yn Sir y Fflint. Rydym yn falch o weld llawer o wynebau cyfarwydd yn mynychu’r sesiynau yn ogystal â rhai wynebau newydd hefyd!
Rhannodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell, Susannah Hill ei brwdfrydedd am gyfraniad Aura yn Amser Rhigwm Mawr Cymru: “Am wythnos wych! Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn fenter wych gan Book Trust Cymru sy’n ddathlu pa mor arbennig yw rhannu rhigymau gyda babanod a phlant ifanc. Mae hefyd yn llawer o hwyl fel y gwelwch o’r holl luniau anhygoel!
Rydym wedi mwynhau cymryd rhan eto eleni ac wedi’i ddefnyddio fel cyfle i rannu ein treftadaeth gyfoethog o rigymau iaith Gymraeg gyda theuluoedd lleol. Mae gan ein holl lyfrgelloedd Amseroedd Rhigwm wythnosol felly os oes gennych blant bach neu wyrion ac wyresau beth am alw heibio i ymuno â ni!”
Hoffai Llyfrgelloedd Aura ddiolch i bawb wnaeth ddod draw i ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru gyda ni. Am fwy o wybodaeth ar Ddigwyddiadau Llyfrgelloedd Aura yn cynnwys Amser Rhigwm cliciwch yma.