Grŵp Darllen Arlein Cymru!

Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi lansio grŵp darllen arlein!

Gallwch ymuno â’r grŵp drwy dudalen Facebook Llyfrgelloedd Cymru (@welshlibraries), o dan ‘Grwpiau’, ble bydd gwybodaeth ar sut i bleidleisio am y dewisiadau darllen pob mis, a sut i lawrlwytho teitlau darllen ar y cyd o BorrowBox.

Gall aelodau llyfrgelloedd Aura lawrlwytho e-lyfrau am ddim. Gallwch lawrlwytho i gyfrifiadur, glinadur neu Mac a’u trosglwyddo i e-ddarllenydd, neu lawrlwytho yn uniongyrchol i ffôn glyfar neu lechen.

Byddwch angen eich Rhif Cerdyn Llyfrgell i ddefnyddio BorrowBox. Gallwch fenthyg hyd at 10 e-lyfr am 21 diwrnod. Cliciwch yma i gael mynediad at BorrowBox.

Leave a Reply