Darganfyddwch Gasgliad Llyfrau Llafar RBDigital

Mae RBDigital wedi creu casgliad o e-lyfraullafar, gan gynnwys llyfr newydd Dr Brendan Kelly: ‘Coping With Coronavirus’

Yn Coping With Coronavirus mae’r seiciatrydd Dr Brendan Kelly yn helpu gwrandawyr i ddeall ac ymdopi â’r straen meddyliol unigryw y mae’r feirws yn ei achosi.

Mae’r llyfr llafar amserol a diddorol hwn ar gael drwy RBDigital fel rhan o’i ‘Core 1000 Collection’. Mae’r holl e-lyfraullafar yn y casgliad hwn, gan gynnwys Coping With Coronavirus, ar ffurf ddiderfyn felly does dim rhaid i fenthycwyr aros i’w darllen.

Gall aelodau llyfrgell Aura lawrlwytho e-lyfrau/e-lyfraullafar yn rhad ac am ddim. Gallwch eu lawrlwytho ar gyfrifiadur, gliniadur neu Mac a’u trosglwyddo i e-ddarllenydd, neu eu lawrlwytho yn uniongyrchol i ffôn clyfar neu lechen. Bydd arnoch chi angen cofrestru a chreu cyfrif gydag RBDigital yn defnyddio manylion eich cerdyn llyfrgell; ac wedyn mi fyddwch chi’n gallu benthyg hyd at 10 o e-lyfrau am 21 diwrnod.

Cliciwch yma i fynd i RBDigital.

Leave a Reply