Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (18 – 24 Mai) yn canolbwyntio ar bŵer a photensial caredigrwydd wrth godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac eirioli yn erbyn stigma cymdeithasol.
Nid yn unig y gall llyfrau ein helpu i ddeall a chydymdeimlo drwy fod yn fwy caredig, ond gall hefyd gynnig mewnwelediad gwerthfawr i fywydau a meddyliau awduron a chymeriadau sy’n profi salwch meddwl. Gyda chymaint o ddewisiadau amrywiol, mae BorrowBox wedi dewis ei hoff deitlau ffeithiol a ffuglennol ar draws fformatau, fel hanfodion ar gyfer eich casgliad.
Cofiwch: Gall aelodau Llyfrgell Aura gael mynediad at eLyfrau a Llyfrau Sain am ddim drwy BorrowBox!
Cliciwch yma i archwilio teitlau BorrowBox!
Dyma rywfaint o argymhellion gan BorrowBox a Llyfrgelloedd Aura!
Cofiwch rannu gyda ni ar Twitter (@LibFlintshire) a Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries) pa deitlau rydych chi wedi bod yn eu mwynhau. Er ein bod ni ar wahân ar hyn o bryd, mae llyfrau yn ein huno ni oll! #UnoDrwyLyfrau!
