Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Mis Medi 2020!

Ein Hawdur y Mis ar gyfer mis Medi 2020 yw: Ali Smith!

Mae Llyfrgelloedd Aura wedi dewis Ali Smith fel ein Hawdur y Mis ar gyfer mis Medi 2020 i ddathlu ei llyfr newydd y bu cryn edrych ymlaen amdano, Spring – yr olaf yn ei phedwarawd tymhorol! Mae hi wedi goresgyn pob trywydd llenyddol ac mae’n sicr yn un o’r hoff ysgrifenwyr cyfoes.

Pa un a ydych yn darllen ei llyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd i rai o’i chlasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Ali Smith! Mwynhewch!

The Accidental (2005): mae’r nofel hon, a rannwyd yn dair rhan, yn dilyn y teulu Smart wrth iddyn nhw gwrdd â gwestai annisgwyl.

Girl Meets Boy (2007): ailadrodd hanes y ffigwr Iphis o fytholeg Roegaidd mewn ffordd fodern.

There But For The (2011): mae’r nofel hon yn canolbwyntio ar Miles Garth sy’n penderfynu cloi ei hun mewn stafell a pheidio â gadael.

Autumn (2016) Winter (2017) Spring (2019) Summer (2020): llyfr ar gyfer pob tymor!

Ffefryn personol Llyfrgell Aura (ac nid oherwydd yr enw’n unig!)…
Public Library and Other Stories (2015): casgliad ffantastig o 12 stori fer sy’n canolbwyntio ar lyfrgelloedd!

Beth yw eich hoff nofel Ali Smith? Rhowch wybod i ni beth ydych chi’n feddwl o’n dewisiadau a pha rai y buasech chi’n eu dewis!. Gwnewch sylw isod neu gysylltwch ar Twitter (@LibFlintshire) a Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply