Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Rhagfyr 2020!

Ein Hawdur y Mis ar gyfer mis Rhagfyr 2020 ydi: Jeanette Winterson!

O nofelau i straeon byrion a thraethodau, dro ar ôl tro, mae Jeanette Winterson wedi syfrdanu darllenwyr gyda’i hysgrifennu ac yn sicr yn un o’n hoff awduron yma yn Llyfrgelloedd Aura.

Pa un a ydych yn darllen ei llyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd i rai o’i chlasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad bach o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Jeanette Winterson! Mwynhewch!

Prif argymhelliad Llyfrgelloedd Aura…
Christmas Days: 12 Stories and 12 Feasts for 12 Days (2016): man cychwyn perffaith i Jeanette Winterson, yn enwedig gyda’r Nadolig ar ei ffordd!

Dechrau o’r dechrau…
Oranges Are Not the Only Fruit (1985)
The Passion (1987)

Trobwynt…
Written On The Body (1992)
The Powerbook (2000)

Awdur i bob oed….
Tanglewreck (2006)
The Lion, The Unicorn and Me: The Donkey’s Christmas Story (2009)

Yn fwy diweddar…
The Gap of Time (2015)
Frankissstein: A Love Story (2019)

Beth yw eich hoff nofel gan Jeanette Winterson? Rhowch wybod i ni beth ydych chi’n feddwl o’n dewisiadau a pha rai y buasech chi’n eu dewis!. Gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni ar Twitter (@LibFlintshire) a Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply