Gyda’r Nadolig yn nesáu, rydym wedi creu ein Calendr Adfent Aura ein hunain, sy’n cynnwys 12 o gynghorion lles i ysbrydoli ac annog ein haelodau. Gobeithio y bydd ein cynghorion lles gwych yn eich helpu i deimlo’n effro ac yn llawn egni, ac yn barod at y flwyddyn newydd!

- Beth am roi cynnig ar Ddosbarth Beicio Stiwdio yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, y Fflint neu Fwcle? Cynhelir y sesiynau ar adegau gwahanol yn ystod yr wythnos, ac maent yn ffordd wych o ymarfer eich corff cyfan. Cliciwch yma i weld ein hamserlen dosbarthiadau ffitrwydd.
- Gofynnwch i’ch llyfrgellydd am argymhellion o ran llyfrau yn seiliedig ar eich diddordebau, byddant yn hapus i’ch helpu a dod o hyd i rywbeth sy’n addas ar eich cyfer. Pwy a ŵyr, efallai y bydd yn ffefryn newydd!
- Hyd yn oed os ydym yn bwyta’n iach ac yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, mae’r gaeaf yn gallu bod yn anodd! Ewch draw i Ystafell Harddwch dros dro Sba Afon ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint i gael mymryn o faldod! Beth am sbwylio eich hunan gyda thriniaeth, p’un a ydych yn cael gwneud eich ewinedd neu’n cael sesiwn dylino, yr Ystafell Harddwch Dros Dro yw’r lle perffaith i ymlacio’n llwyr.
- Gofynnwch i un o’n hyfforddwyr ffitrwydd argymell dosbarth ffitrwydd neu ddarn newydd o offer i’ch herio wrth i chi weithio tuag at eich nod o ran ffitrwydd!
- Ymunwch â dosbarth Tai Chi ym Mhafiliwn Jade Jones, neu ar-lein dros Zoom. Mae’n ddosbarth grŵp sy’n defnyddio symudiadau araf, llyfn i ymlacio’r corff a’r meddwl. Gall hefyd helpu i wella hyblygrwydd, rheoli balans a ffitrwydd.
- Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd? Ymunwch â’n grŵp darllen ar y cyd, ‘Ffrindiau Darllen’ dros Zoom, sy’n cynnig cyfle i gymdeithasu a rhannu awgrymiadau darllen. (Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â thudalen Facebook Llyfrgelloedd Aura): @LlyfrgelloeddAuraLibraries neu anfonwch e-bost at Susannah.hill@aura.wales )
- Beth am ddosbarth Ffitrwydd Dŵr, Ioga neu Abs ganol yr wythnos ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint!
- Ar ôl diwrnod prysur, beth gewch chi well i ymlacio’r corff na chyfuniad olew tylino Aromatherapi cartref gan Afon Sba, neu darganfyddwch gynhyrchion hyfryd Buddha Beauty, sydd ar gael yn yr Ystafell Harddwch Dros Dro Sba Afon.
- Nofio yw un o’r ffurfiau gorau o ymarfer corff: dewch draw i sesiwn Ffitrwydd Dŵr yng Nghanolfan Hamdden Bwcle neu sesiwn nofio Pod Teulu ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint.
- Gallwch archebu sesiwn ffitrwydd bersonol 1 i 1 gydag ein hyfforddwyr ffitrwydd cymwys, cyfeillgar a phroffesiynol i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
- Pilates yw’r dosbarth perffaith os ydych yn awyddus i wella eich hyblygrwydd a chryfhau eich corff: rhowch gynnig ar ddosbarth Pilates yng Nghanolfan Hamdden Bwcle neu’r Wyddgrug!
- Mae gwrando ar lyfr sain yn ffordd wych o ddadweindio ar ôl diwrnod hir. Fel aelod o Lyfrgell Aura, gallwch gael mynediad at gannoedd o lyfrau sain gwahanol! Darganfyddwch fwy yma.
Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol a dewch o hyd i ni ar Facebook: @walesaura Twitter: @aura_wales ac Instagram: @aura.wales