Argymhellion Darllen Nadoligaidd Difyr gan Lyfrgelloedd Aura!

Mae yna rywbeth hyfryd am ddarllen llyfr dros gyfnod y Nadolig. Wrth i’r cnau castan rostio yn y popty a’r tywydd yn ddychrynllyd y tu allan, beth am swatio ar y soffa gyda llyfr gwych, mins pei, a gwydriad o win cynnes o bosibl? I roi ychydig o ysbrydoliaeth i chi, rydym wedi llunio rhestr o argymhellion Nadoligaidd difyr i chi eu mwynhau.

P’un a ydych yn chwilio am straeon i’w rhannu â’r teulu, ryseitiau ar gyfer eich bwydlen Nadolig, neu gliwiau a chynghorion defnyddiol ar gyfer anrhegion arbennig, bydd gan ein llyfrgelloedd y llyfr perffaith ar eich cyfer!

Ffuglen:
The Toymakers gan Robert Dinsdale
A Maigret Christmas gan Georges Simenon
Ffeithiol:
The Twelve Birds of Christmas gan Stephen Moss


Llyfr ryseitiau:
Christmas with Kim-Joy: a festive collection of edible cuteness gan Kim-Joy
Mary Berry’s Christmas Collection gan Mary Berry


Barddoniaeth:
Hoff Gerddi Nadolig Cymru gan Bethan Mair
Christmas Poems gan Wendy Cope


Crefftau Nadoligaidd:
Supercraft Christmas gan Sophie Pester


Ar gyfer darllenwyr ifanc:
The Lion, the Witch and the Wardrobe gan C.S.Lewis
A boy called Christmas gan Matt Haig
Anrheg Nadolig Taid/ Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo
Stick Man gan Julia Donaldson


Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura:Christmas Days: 12 Stories and 12 Feasts for 12 Days gan Jeanette Winterson

Beth bynnag y byddwch chi’n ei ddarllen dros gyfnod y Nadolig, hoffai Llyfrgelloedd Aura ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Leave a Reply