Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Mis Mawrth 2021!

Awdur y Mis ar gyfer Mawrth 2021 yw Ian McEwan

Y nofelydd a’r sgriptiwr Ian McEwan yw un o’n hoff awduron yma yn Llyfrgelloedd Aura. Mae’n cael ei edmygu am ei ryddiaith pwerus, oedd yn amlwg o ddechrau ei yrfa gyda’i straeon byr gothig gwych, i’w nofelau ac addasiadau ar gyfer y sgrîn.

Pa un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd i rai o’i glasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Ian McEwan! Mwynhewch!

Dechrau o’r dechrau…
The Cement Garden (1978)
The Comfort of Strangers (1981)
The Child in Time (1987)


Y newid trywydd …
Enduring Love (1997)
Amsterdam (1998)


Y goreuon ar y sgrin fawr …
Atonement (2001)
On Chesil Beach (2007)


A mwy o’i dalentau …
First Love, Last Rites (1975): Casgliad o Straeon Byr a chyhoeddiad cyntaf
The Daydreamer (1994): Ffuglen plant


Yn fwy diweddar ….
Machines Like Me (2019)
The Cockroach (2019)


Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…Nutshell (2016)

Pa un yw eich hoff nofel chi gan Ian McEwan? Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’n dewisiadau a pha nofelau y buasech chi wedi eu dewis! Gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni ar Twitter (@LibFlintshire) a Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply