Shakespeare mewn gwisg newydd: ein hoff 10 llyfr a ysbrydolwyd gan ei waith!

23 Ebrill yw dyddiad geni a marw William Shakespeare. Rydym ni yma yn Llyfrgelloedd Aura wrth ein boddau â gwaith Shakespeare, o’i sonedau i’w ddramâu, ac rydym wrth ein boddau hefyd â’r gwahanol addasiadau a’r ailddychmygiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan ei waith.
Rydym wedi llunio rhestr o deitlau i ysbrydoli aelodau’r llyfrgelloedd i ailddarganfod Shakespeare: gellir benthyg pob un o’r teitlau isod o’ch llyfrgell Aura leol.

Hamnet gan Maggie O’Farrell
Brave New World gan Aldous Huxley
Wise Children gan Angela Carter
Nutshell gan Ian McEwan
Hag-Seed gan Margaret Atwood
The Gap of Time gan Jeanette Winterson
Vinegar Girl gan Anne Tyler
The Talented Mr Ripley gan Patricia Highsmith
Shylock is my Name gan Howard Jacobson
The Dogs of War gan Frederick Forsyth

Noson y Llyfr

Eleni yw degfed pen-blwydd Noson y Llyfr (23 Ebrill): digwyddiad blynyddol sy’n dathu llyfrau a hud darllen. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yn nathliadau eleni: gallwch gymryd rhan mewn cwis ar-lein, gallwch edrych ar restr llyfrau 2021, lawrlwytho llyfr sain, neu fynd i ddigwyddiad arbennig ar-lein – mae yna sawl ffordd o fwynhau Noson y Llyfr o glydwch eich cartref eich hun eleni.

Leave a Reply