Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Gorffennaf 2021!

Ein Hawdur y Mis Gorffennaf 2021 yw Salman Rushdie

Mae Salman Rushdie wedi cael ei ddisgrifio gan nifer fel un o’r lleisiau llenyddol mwyaf dylanwadol a phwysig ein hoes. Meistr realaeth hudolus: mae ei waith yn aml yn cyfuno straeon tylwyth teg neu elfennau o chwedlau, gyda naws am le neu hanes.
P’un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu’n dychwelyd at rai o’i deitlau enwocaf a mwyaf poblogaidd, rydym wedi creu rhestr ddarllen fer i fynd â chi ar antur i fyd Salman Rushdie! Mwynhewch!

Dechrau o’r dechrau…
Grimus (1975)
Midnight’s Children (1981)

Trobwynt…
The Satanic Verses (1988)
The Moor’s Last Sigh (1995)

Ar gyfer darllenwyr ifanc…
Haroun and the Sea of Stories (1990)
Luka and the Fire of Life (2010)

Yn ddiweddar…
Quichotte (2019)
Languages of truth: essays 2003-2020 (2021)

Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…
The Enchantress of Florence (2008)

Beth yw eich hoff nofel Salman Rushdie? Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’n dewisiadau a pha nofelau y byddech chi wedi eu dewis! Gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instragram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply