Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Medi 2021!

Ein Hawdur y Mis ar gyfer mis Medi 2021 yw Kazuo Ishiguro

Kazuo Ishiguro yr awdur enwog yw un o’r awduron cyfoes a gerir fwyaf yn y byd, ac yn sicr mae’n un o’n ffefrynnau yma yn Llyfrgelloedd Aura! O ffuglen hanesyddol i ffuglen wyddonol, mae darllenwyr yn mwynhau ei weithiau am eu harchwiliadau o hunaniaeth, natur ddynol a lle, ar y cyd â’i steil cain o ysgrifennu.

P’un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu’n dychwelyd at rai o’i deitlau enwocaf a mwyaf poblogaidd, rydym wedi creu rhestr ddarllen fer i fynd â chi ar antur i fyd Kazuo Ishiguro! Mwynhewch!

Dechrau o’r dechrau…
A Pale View of Hills (1982)
Teitlau poblogaidd…
The Remains of the Day (1989)
Never Let Me Go (2005)
Yn ddiweddar…
Klara and the Sun (2021)
Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…
The Buried Giant (2015)

Beth yw eich hoff nofel gan Kazuo Ishiguro? Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’n dewisiadau a pha nofelau y byddech chi wedi eu dewis! Gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instragram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply