Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Hydref 2021!

Ein Awdur y Mis Hydref 2021 yw Ian Rankin

Mae Ian Rankin fwyaf adnabyddus am ei nofelau Inspector Rebus, ac am fod yn un o awduron trosedd gorau’r Alban, ac mae llawer o’i waith wedi’i leoli yng Nghaeredin. Mae nifer o’i lyfrau neu straeon byrion wedi cael eu haddasu i fod yn gyfresi teledi, gan dderbyn canmoliaeth am ei gyfraniad sylweddol i’r genre tartan noir.

P’un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu’n dychwelyd at rai o’i deitlau enwocaf a mwyaf poblogaidd, rydym wedi creu rhestr ddarllen fer i fynd â chi ar antur i fyd Ian Rankin! Mwynhewch!

Dechrau o’r dechrau…
The Flood (1986)
Knots and Crosses (1987)
Nofelau Inspector Rebus…
Hide and Seek (1991)
Tooth and Nail (1992)
Yn ddiweddar…
A Song for the Dark Times (2020)
Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…
A Good Hanging and Other Stories (1992)

Beth yw eich hoff nofel Ian Rankin? Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’n dewisiadau a pha nofelau y byddech chi wedi eu dewis! Gadewch sylw isod neu cysylltwch â ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instragram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma!

Leave a Reply