Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • DYDD LLUN GŴYL Y BANC 6 MAI 2024: Dim ond Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy (8:30am-4:00pm) a Phafiliwn Jade Jones y Fflint (8:00am-3:00pm) sydd AR AGOR. Bydd pob un canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU.

Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Bydd Aura Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn cynnal arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain fel rhan o ddigwyddiadau cenedlaethol i nodi 80 mlynedd a phennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd. 

Er y bydd y daith yn nodi pawb a fu’n rhan o’r Frwydr, bydd y prif ganolbwynt ar y criw awyr o Gymru a fu’n brwydro, gan adrodd eu straeon a’u harwriaeth wrth gynulleidfa Gymreig fodern.

Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, yr uwch swyddog RAF yng Nghymru: “Rwyf wrth fy modd bod Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn dod i Sir y Fflint. Mae’r arddangosfa’n adrodd y stori heb ei hadrodd o safbwynt Cymreig, gan gynnwys gwybodaeth am sut wnaeth gorsafoedd RAF yng Nghymru, ynghyd â chymunedau lleol ar draws Cymru, i gyd gyfrannu at fuddugoliaeth ym 1940.”

Wnaeth y Comodor Awyr Williams ymuno â Chadeirydd y Cyngor i agor arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy ar ddydd Llun 3 Hydref 2022.  Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd o 9:00am tan 6:00pm tan ddydd Gwener 7 Hydref. Mae mynediad AM DDIM.

 

Back To Top