Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Argymhellion Darllen Sul y Mamau gan eich Llyfrgell

Dathlwch famau, neiniau a ffigyrau mamol o bob math ar Sul y Mamau eleni gyda’r argymhellion darllen gwych hyn:

Little Women gan Louisa May Alcott: nofel glasurol sy’n boblogaidd ar draws y byd gan blant ac oedolion!
Llyfr Glas Nebo / The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros: ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae’r nofel hardd hon yn cyfleu cryfder a chariad mam.
Shuggie Bain gan Douglas Stuart: stori dorcalonnus ond eto’n obeithiol am fam a mab, Agnes a Shuggie Bain.
Hamnet gan Maggie O’Farrell: stori ddirdynnol am fod yn fam a darlun trawiadol o’r profiad oesol o alar a cholled.
Y Stori Orau gan Lleucu Roberts: nofel afaelgar am y berthynas rhwng mam a merch wrth iddynt fynd ar antur mewn hen fan camper VW.
Dear Ijeawele, or a Femenist Manifesto in Fifteen Suggestions gan Chimamanda Ngozi Adichie: darnau o gyngor byr a chraff i famau gan yr awdur anhygoel Chimamanda Ngozi Adichie ar ôl i ffrind ofyn am gyngor ar sut i fagu ei merch newydd-anedig.
Grandmothers gan Sally Vickers: stori hardd am y berthynas rhwng tair menyw wahanol iawn a’r bobl ifanc yn eu teuluoedd.
Mothers and Sons gan Colm Toibin: casgliad o straeon byr teimladwy sy’n archwilio’r berthynas gymhleth rhwng mam a mab.
On Earth We’re Briefly Gorgeous gan Ocean Vuong: stori dorcalonnus ond eto’n hardd am ddyn ifanc yn ysgrifennu llythyr i’w fam sydd methu darllen.
Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo: 12 llais yn adrodd eu hanes o ymdrech a chryfder dros y 100 mlynedd ddiwethaf yn y nofel afaelgar a chraff hon.

Rhowch wybod i ni eich barn am ein rhestr a pha lyfrau fyddech chi wedi eu cynnwys eich hunain. Dewch o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol – @LlyfrgelloeddAuraLibraries ar Facebook a @LibFlintshire ar Twitter.

Cofiwch: gallwch bori drwy’r llyfrau hyn a channoedd mwy ar ein catalog llyfrgell ar-lein! Mae pob un o’r llyfrau uchod ar gael i’w benthyg o’n llyfrgelloedd Aura fel llyfrau, e-lyfrau neu lyfrau sain. Darganfyddwch fwy am yr hyn all eich llyfrgell ei wneud i chi, yma.

Back To Top