Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Aura Cymru a Seriously Social

Yma yn Aura Cymru rydym ni’n cymryd daioni cymdeithasol ac ychwanegu gwerth at fywydau pobl o ddifrif. 

A dyna pam ein bod ni’n cynnal ein hwythnos ‘Seriously Social’ gyntaf ym mis Mai 2024, fel rhan o ymgyrch genedlaethol sy’n arddangos gwaith ymddiriedolaethau elusennol a mentrau cymdeithasol, fel ni, sy’n rhoi pobl o flaen elw, yn cysylltu cymunedau ac yn helpu pobl i fod yn iachach, hapusach ac yn fwy creadigol waeth beth fo’u hoedran a’u gallu.

Mae Seriously Social wedi’i drefnu gan gorff cenedlaethol Community Leisure UK. Yn dechrau ddydd Llun 27 Mai bydd pob diwrnod o’r wythnos yn canolbwyntio ar thema benodol i ddangos sut gall sefydliadau fel ein un ni helpu i gael effaith gymdeithasol a gwneud cymunedau yn hapusach ac iachach. Mae’r themâu yn cynnwys Iechyd a Lles, yr Amgylchedd, Cynhwysiant, Cymuned a Chyflogaeth a Sgiliau.

Meddai Kirsty Cumming, Prif Weithredwr Community Leisure UK: “Yn ogystal â darparu gwasanaethau hamdden a diwylliannol cyhoeddus, mae ein haelodau yn cefnogi newid cymdeithasol er gwell pob diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

“Fel mentrau cymdeithasol ac elusennau, maen nhw’n rhoi pobl cyn elw. Maen nhw’n cael eu rhedeg gan bobl leol, er budd pennaf pawb. Mae’r wythnos hon yn dangos sut maen nhw’n mynd gam ymhellach i gefnogi unigolion a chymunedau. Mae hwn yn sector anhunanol, sy’n gweithio’n dawel bob dydd i gefnogi pobl a chymunedau. Nid oherwydd eu bod nhw’n gwneud pres, ond oherwydd mai dyna’r peth cywir i’w wneud. Ac roeddem ni’n meddwl bod hi’n hen bryd i fwy o bobl gael gwybod am y gwaith gwych a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud.”

Mae rhwydwaith Community Leisure UK yn cynnwys mwy na 110 o Ymddiriedolaethau Elusennol a Mentrau Cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau hamdden a diwylliant yn y DU ac Iwerddon. Gyda’u gilydd, yn 2023 fe wnaethon nhw:

• Croesawu mwy na 209 miliwn o ymwelwyr
• Gweithio gyda mwy na 170 o awdurdodau lleol
• Cydweithio gyda mwy na 100,000 o grwpiau cymunedol
• 73% ohonyn nhw wedi lleihau eu hallyriadau carbon
• 63% ohonyn nhw wedi darparu canolfannau clyd
• 75% ohonyn nhw wedi darparu bwyd a rhaglenni gweithgareddau dros y gwyliau ysgol
• Arbed £893 miliwn i’r wlad a’r GIG drwy weithio’n galed i annog mwy o bobl i fod yn egnïol ac iachach*

Meddai Mike Welch, Prif Weithredwr Aura Cymru: “Rydym ni’n falch o fod yn rhan o rwydwaith elusennol sydd â chydwybod gymdeithasol, gan gyflawni daioni cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau hamdden a diwylliant cyhoeddus. Nid gwneud elw ydi’r busnes craidd, ond y pwrpas – helpu pobl yn gyntaf. Cefnogi cymdeithas i fod yn iachach a hapusach, cyflogi pobl leol, creu gofodau diogel i bawb, cysylltu cymunedau, gweithio tuag at sero net a chefnogi pobl drwy ddarparu gwasanaethau iechyd a lles o ansawdd beth bynnag fo’u hoed a’u gallu.

“Mae Seriously Social yn ffordd wych i ddangos y gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud a pham ein bod ni’n gwneud yr hyn rydym ni’n ei wneud.”

Am fwy o wybodaeth ewch i seriouslysocial.org.uk

*Gwerth cymdeithasol wedi’i gynhyrchu gan 4Global yn defnyddio data Moving Communities a DataHub. Mae’r ystadegau llawn ar gael yn seriouslysocial.org.uk

Back To Top