Aura Cymru yn cyrraedd y Rownd Derfynol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022
Mae Aura Cymru yn falch iawn o ddweud eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ‘Trawsnewid Cymuned a Lle’ yng ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022.
Mae’r gwobrau’n cydnabod mentrau cymdeithasol arloesol ledled Cymru a bydd Aura yn ymuno â sefydliadau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Abertawe ar 10 Hydref.
Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, sef cyfleuster mwyaf Aura, wedi gweld trawsnewidiad mawr dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl cael ei ddefnyddio fel ysbyty Enfys am gyfnod dros dro, mae’r adeilad bellach wedi cael ei drawsnewid yn ganolfan hamdden sy’n ganolbwynt i’w chymuned, gydag atyniadau newydd a chyffrous i ddiwallu anghenion trigolion lleol Sir y Fflint ac ymwelwyr o du hwnt i’r sir.
Agorwyd ein parc bownsio llawn hwyl – sef y cyntaf o’i fath yn Sir y Fflint – ym mis Rhagfyr 2021 gyda lle i 70 o ddefnyddwyr ar y tro. Yn fuan wedi hynny ail-agorwyd ein parc sgrialu dan do ar ei newydd wedd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy sy’n addas ar gyfer bob math o chwaraeon ar olwynion gan gynnwys sgwteri, sglefrfyrddau, beics BMX a sglefrolwyr.Mae’r atyniadau newydd hyn yn cynrychioli dyhead ac ymrwymiad Aura i ddarparu cyfleoedd hamdden cyffrous a deinamig i’r gymuned. Bellach rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ail-agor y llawr iâ a ddisgwylir yn hydref 2022.
Mae Aura yn ddiolchgar am yr adborth gwych gan ymwelwyr Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ers i’r ddau atyniad newydd hyn agor – dywedodd un o ddefnyddwyr y parc sgrialu: “Cawsom ymweliad ardderchog: roedd y staff yn wych, yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Mae’n awyrgylch mor braf – profiad arbennig! “Mae’n wych cael cyfleuster fel hyn ar ein stepen drws.”
Mae Aura yn un o’r cymdeithasau budd cymunedol cyntaf yn y DU sydd ym mherchnogaeth ei weithwyr. Cafodd ei ddylanwad ei gydnabod am y tro cyntaf yn genedlaethol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2019 lle llwyddom i ennill, nid yn unig y wobr Wynebu Cwsmeriaid, ond hefyd y brif wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn gyda’r panel beirniadu’n disgrifio Aura fel “esiampl wych o sut y gall menter gymdeithasol gadw gwasanaethau gwerthfawr i fynd er budd cymunedau lleol”.
Ar ran tîm cyfan Aura, dywedodd Paul Jones, Rheolwr Gwella a Pherfformiad Busnes Aura: “Yn dilyn yr heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig a cholli Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy am gyfnod dros dro, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu adfywio’r hen arena dan do trwy gyflwyno dau o atyniadau newydd sbon a chyffrous. Mae’r ddau wedi bod yn eithriadol o boblogaidd ymysg ein cwsmeriaid ers iddyn nhw agor ac mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol yr ydym wedi’i chael yn ddiweddar trwy Wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn brawf o waith caled y cydweithwyr i wireddu’r weledigaeth newydd.”