Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Aura Cymru yn falch o gyflawni Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr

Mae Aura Cymru yn falch o gyhoeddi fod dau gyfleuster, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phafiliwn Jade Jones y Fflint, wedi derbyn gwobr achrededig gan Groeso Cymru, gwefan swyddogol ar gyfer twristiaeth yn y Dywysogaeth.

Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, safle fwyaf Aura, yn cael ei ystyried yn “gyfleuster rhagorol” gan dderbyn cydnabyddiaeth ‘Sicrwydd Ansawdd’, tra bod Pafiliwn Jade Jones y Fflint, cyfleuster mwy cymunedol, wedi derbyn statws ‘Cymeradwy’. Gan wneud sylw ar eu profiad yng Nglannau Dyfrdwy, cydnabu Tîm Ansawdd Rhanbarthol Croeso Cymru wefan gynhwysfawr Aura, lle gellir archebu gweithgareddau ar-lein, a nodwyd y lleoliad yn “rhagorol” ac yn “werth ei ymweld ar gyfer twristiaid tra ar wyliau yn yr ardal.” Canmolwyd y tîm Aura am fod yn “gyfeillgar a defnyddiol iawn” mewn adeilad sydd “wedi’i gynnal a’i gadw’n dda ac o safon uchel iawn.”

Ar ôl derbyn y newyddion o achrediad Croeso Cymru, dywedodd Amy Shields, Goruchwyliwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Aura: “Rydym mor falch o gael ein cydnabod am ein cyfleusterau gwych ac mae’n dyst i pa mor galed mae’r tîm yn gweithio i ddarparu gwasanaeth amrywiol nid yn unig i’r gymuned leol ond i bobl sy’n ymweld â Chymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Croeso Cymru i sefydlu ein hunain fel atyniad i dwristiaid o fewn yr ardal leol.”

I ddarganfod mwy am atyniadau Aura i ymwelwyr, sy’n cynnwys Canolfan Sglefrio, Parc Bownsio, Parc Sglefrio, Bowlio Deg, Ardal Chwarae Meddal a Sba, ewch i www.aura.wales

Back To Top