Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • DYDD LLUN GŴYL Y BANC 27 MAI 2024: Dim ond Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy (8:30am-4:00pm) a Phafiliwn Jade Jones y Fflint (8:00am-3:00pm) sydd AR AGOR. Bydd pob un canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU.

Aura Cymru’n myfyrio ar eu Gaeaf llawn gweithgareddau lles

Drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth 2022, roedd yn bleser gan Aura ddarparu gweithgareddau rhad ac am ddim ar draws ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd fel rhan o fenter ‘Gaeaf Llawn Lles’ Llywodraeth Cymru. O glybiau gwyliau i weithdai ysgrifennu creadigol, llwyddom i ddarparu ar gyfer 2000 o breswylwyr lleol yn Sir y Fflint a hyrwyddo pwysigrwydd lles ar gyfer y corff a’r meddwl.

Cynigwyd sesiynau am ddim i grwpiau cymunedol a theuluoedd yn ein Parc Bownsio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn ogystal â sesiynau Rhieni a Babanod wedi’u teilwra ar gyfer plant iau. Rhoddwyd dros 500 o docynnau gwobrau i ysgolion Sir y Fflint i ymweld â Pharc Sglefrio Aura, ynghyd â sesiynau Merched yn Unig ac Addas i Bobl Anabl er mwyn annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon cadair olwyn. Yn ogystal â hynny, cynigwyd sesiynau Chwarae Meddal a Bowlio Deg am ddim ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint, ynghyd â sesiynau nofio i’r teulu yn ein pyllau nofio yn yr Wyddgrug, Bwcle a’r Fflint.

Meddai Lee Breeze, Swyddog Datblygu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy: “Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, cynigwyd 450 o lefydd am ddim i blant yn ein clybiau gwyliau a’n gwersylloedd pêl-droed, ynghyd â gwersi a sesiynau nofio i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd yn wych gallu darparu ar gyfer gymaint o bobl ar draws cymuned Sir y Fflint. Uchafbwynt i mi oedd gweld dros 500 o blant ysgol Sir y Fflint yn ymweld â’r Parc Sglefrio a’r Parc Bownsio newydd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Dyfrdwy. Gobeithiwn eu bod wedi mwynhau eu hymweliad a gobeithiwn eu croesawu’n ôl yn fuan.”

Yn yr un modd, mae Llyfrgelloedd Aura wedi darparu gweithgareddau lles i blant a phobl ifanc fel rhan o’u hymgyrch Gaeaf Llawn Lles â’r Asiantaeth Ddarllen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae llyfrgelloedd wedi cydweithio gyda Sba Afon a thîm Ffitrwydd Aura i gynnig triniaethau sba am ddim a mis o aelodaeth campfa am ddim i 40 o bobl ifanc lwcus rhwng 16 a 25 oed. Darparwyd sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar am ddim i bobl ifanc hefyd er mwyn annog lles meddyliol.

Gwahoddwyd ysgolion ar draws Sir y Fflint i ymuno â’r llyfrgelloedd ar gyfer Amser Stori gyda Mama G a ymwelodd â phob un o lyfrgelloedd Aura ym mis Mawrth i rannu straeon am garu pwy ydych chi ac ymhyfrydu yn eich hunaniaeth. I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, darparodd Fiona Collins sesiynau arbennig yn Llyfrgelloedd y Fflint a’r Wyddgrug i ddisgyblion o Ysgol Croes Atti ac Ysgol Glanrafon. Roedd yn bleser gan y llyfrgelloedd gynnal gweithdai Ysgrifennu Creadigol gyda Charles Lea o ‘Read Now Write Now’ ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

Eglurodd Susannah Hill, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell: “Mae’r rhaglen weithgareddau wedi ein galluogi i ymgysylltu â bron i 600 o blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint a chanolbwyntio ar wella eu lles. Roedd cymysgedd o weithgareddau wedi eu targedu gydag ysgolion arbennig a sesiynau agored i deuluoedd a phobl ifanc: gyda’r nod o annog plant i ymgysylltu â llyfrgelloedd eto. Cawsom adborth hyfryd ac roedd yn hyfryd croesawu grwpiau o bobl ifanc yn ôl i’n llyfrgelloedd a chael hwyl.”

I ddod â’r ymgyrch ‘Gaeaf Llawn Lles’ i ben, cynhaliodd Llyfrgelloedd Aura ddigwyddiad ar-lein arbennig iawn i ysgolion uwchradd ar draws Cymru ynghyd â’r Asiantaeth Ddarllen a Manon Steffan Ros: ‘Llyfrau yw eich Ffrindiau Gorau’. Roedd yn ffordd hyfryd i ddod â’r ymgyrch i ben a hyrwyddo pŵer llyfrau a darllen i bobl ifanc.
Gallwch weld y digwyddiad hwn yn ogystal â rhai o’r digwyddiadau eraill yma

Hoffai tîm Aura ddiolch i bawb a fynychodd unrhyw un o’r gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles a gobeithiwn fod pawb a ymunodd â ni wedi cael amser gwych. Gobeithiwn eich gweld chi gyd yn ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd yn fuan iawn.

I glywed y diweddaraf am bopeth gan Aura, dilynwch @walesaura ar Facebook, @aura_cymru ar Twitter ac @aura.wales ar Instagram.

Back To Top