Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Hydref 2022
Ein hawdur y mis ar gyfer Hydref 2022 yw’r gogoneddus Bethan Gwanas. Mae pob un nofel ganddi hi’n bleser i’w darllen, gyda chymeriadau cofiadwy a diddorol. Heb os, Bethan Gwanas yw un o’n hawduron mwyaf annwyl yng Nghymru ac yn ffrind da ac annwyl i lyfrgelloedd Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu hi’n ôl i Lyfrgell Yr Wyddgrug y mis yma ar gyfer digwyddiad arbennig i ddysgwyr Cymraeg (mwy o wybodaeth yma).
Pa un ai ydych yn darllen ei llyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd at rai o’i chlasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Bethan Gwanas. Mwynhewch!
Y rhai cynharaf…
Llinyn Trôns (2000)
Hi yw fy Ffrind (2004)
I ddarllenwyr ifanc…
Gwrach y Gwyllt (2003)
Merch y Gwyllt (2020)
I siaradwyr Cymraeg newydd…
Bywyd Blodwen Jones (1999)
Yn ei Gwsg (2018)
Yn ddiweddar…
Prawf Mot (2022)
Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…
I Botany Bay (2015)
A oes gennych chi eich hoff nofel gan Bethan Gwanas? Gadewch i ni wybod eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a gadael sylw i ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma