skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Ionawr 2022

Blwyddyn Newydd Dda! I ddechrau 2022, rydym wedi dewis un o’n hoff awduron fel awdur y mis ar gyfer mis Ionawr: Colson Whitehead.

Mae darllenwyr ym mhob man yn hoff iawn o waith Colson Whitehead, ac mae’n un o awdurdon pwysicaf a hynod gyfoes America. P’un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu’n dychwelyd at rai o’i deitlau enwocaf a mwyaf poblogaidd, rydym wedi creu rhestr ddarllen fer i fynd â chi ar antur i fyd Colson Whitehead! Mwynhewch!

Dechrau o’r dechrau…
The Intuitionist (1999)
Llyfrau poblogaidd…
The Underground Railroad (2016)
The Nickel Boys (2019)
Yn ddiweddar…
Harlem Shuffle (2021)
Argymhelliad gwych… Apex Hides the Hurt (2006)

Oes gennych chi hoff nofel gan Colson Whitehead? Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl o’n dewisiadau a pha nofelau y byddech chi wedi eu dewis! Defnyddiwch yr hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a rhowch sylw ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma

Back To Top