Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Ionawr 2023

Ein hawdur y mis ar gyfer Ionawr 2023 yw Lleucu Roberts

Mae Lleucu Roberts yn ysgrifennu i oedolion a phlant ac yn awdur sydd wedi ennill sawl gwobr arbennig. Y person cyntaf i ennill y ddwy wobr ryddiaith fawreddog yn yr un flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol – ac mae hi wedi gwneud hynny ddwywaith! – mae Lleucu yn un o awduron cyfoes mwyaf poblogaidd Cymru.

Pa un ai ydych yn darllen ei llyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd at rai o’i chlasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Lleucu Roberts. Mwynhewch!

Y rhai cynharaf…
Caneuon Heddwch (1991)
Troi Clust Fyddar (2005)

Teitlau poblogaidd…
Rhwng Edafedd (2014)
Saith Oes Efa (2014)

Yn ddiweddar…
Hannah-Jane (2021)
Y Stori Orau (2021)

Prif argymhelliad…
Jwg ar Seld (2016)

A oes gennych chi eich hoff nofel gan Lleucu Roberts? Gadewch i ni wybod eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a gadael sylw i ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma

Back To Top