Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Mawrth 2022
Awdur y mis ar gyfer Mawrth 2022 yw John Boyne: un o awduron cyfoes poblogaidd Iwerddon. O ddirgelion arswydus i hanesion y rhyfel (heb sôn am drafferthion a drama teuluol!) Mae John Boyne wedi ysgrifennu 13 nofel i oedolion ynghyd â 6 nofel i ddarllenwyr iau.
Pa un a ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd i rai o’i glasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd John Boyne. Mwynhewch!
Yn y dechreuad…
The Thief of Time (2000)
The Congress of Rough Riders (2001)
Ffefrynnau’r sgrîn fawr…
The Boy in the Striped Pyjamas (2006) hefyd ar gael yn y Gymraeg Y Bachgen mewn Pyjamas (cyfieithiad gan Emily Huws)
I ddarllenwyr ifanc…
Stay Where You Are And Then Leave (2013)
The Boy at the Top of the Mountain (2015)
Yn fwy diweddar…
A Traveler at the Gates of Wisdom (2020)
The Echo Chamber (2021)
Prif argymhelliad…
The Heart’s Invisible Furies (2017)
Oes gennych chi hoff nofel gan John Boyne? Gadewch i ni wybod eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a gadewch sylwadau i ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma