Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Mehefin 2022

Ein hawdur y mis ar gyfer Mehefin yw Nick Hornby

Mae Nick Hornby yn awdur cyfarwydd i ddarllenwyr ar draws y byd. Mae’r cymeriadau sy’n byw y tu mewn i dudalennau llyfrau Nick Hornby yn ddiddorol a chofiadwy bob tro! Efallai y bydd rhai ohonynt yn adnabyddadwy i chi ar y sgrin fawr!

Pa un ai ydych yn darllen ei lyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd at rai o’i clasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Nick Hornby. Mwynhewch!

Y rhai cynharaf…
Contemporary American Fiction (1992)
Fever Pitch (1992)
Y goreuon ar y sgrin fawr …
High Fidelity (1995)
About a Boy (1998)
Yn ddiweddar…
Just Like You (2020)
Prif argymhelliad…
Funny Girl (2014)

A oes gennych chi eich hoff nofel gan Nick Hornby? Gadewch i ni wybod eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a gadael sylw i ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)

I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma

Back To Top