Awdur y Mis Llyfrgelloedd Aura: Rhagfyr 2022
Ein hawdur y mis ar gyfer Rhagfyr yw Chimamanda Ngozi Adichie
Mae Chimamanda Ngozi Adichie yn awdur o Nigeria sy’n ysgrifennu llenyddiaeth ffuglen a ffeithiol. Mae lle, diwylliant a llais i gyd yn themâu pwysig a chanolog iawn yn ei gwaith. Ac mae ei llyfrau yn boblogaidd iawn efo darllenwyr ar draws y byd.
Pa un ai ydych yn darllen ei llyfrau am y tro cyntaf erioed, neu yn dychwelyd at rai o’i chlasuron mwyaf poblogaidd, rydym wedi rhoi casgliad o deitlau at ei gilydd i fynd â chi ar antur i fyd Chimamanda Ngozi Adichie. Mwynhewch!
Y rhai cynharaf…
Purple Hibiscus (2003)
Yr hyn newidiodd pethau…
Half of a Yellow Sun (2006)
Americanah (2013)
Yn ddiweddar…
Notes on Grief (2021)
Hoff lyfr Llyfrgelloedd Aura…
The Thing Around Your Neck (2009)
A oes gennych chi eich hoff nofel gan Chimamanda Ngozi Adichie? Gadewch i ni wybod eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #LlyfrgelloeddAuraLibraries a gadael sylw i ni ar Twitter (@LibFlintshire), Instagram (@llyfrgelloeddauralibraries) neu Facebook (@LlyfrgelloeddAuraLibraries)
I weld ein Hawdur y Mis blaenorol, cliciwch yma