Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Awduron o’r gogledd ymhlith y llyfrau sy’n codi hwyliau plant a phobl ifanc

Pa well ffordd i ddathlu Diwrnod San Ffolant na gyda 25 llyfr mae plant a phobl ifanc Cymru yn eu caru!
Heddiw mae llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a’r Asiantaeth Ddarllen yn cyhoeddi eu rhestr fer Gaeaf Llawn Lles, sef casgliad o 25 o lyfrau gwych a enwebwyd gan blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu pŵer i wneud iddyn nhw deimlo’n well, yn fwy cysylltiedig a’u bod yn cael eu deall yn fwy.

Lansiwyd y llinyn cyffrous hwn o ymgyrch traws-sector Gaeaf Llawn Lles sy’n cael ei gynnal ledled Cymru fis diwethaf gyda galwad i weithredu i ddarganfod hoff lyfrau plant a phobl ifanc ar ôl dwy flynedd anodd yn ystod pandemig Covid-19.
Ymatebodd llu o blant a phobl ifanc ledled Cymru ac mae rhestr o 25 o lyfrau bellach wedi’i chyhoeddi. Ymhlith y rhai sydd ar y rhestr mae awduron arobryn o Gymru fel enillydd Gwobrau Llyfrau Plant Tir na n’Og Cymru bedair gwaith ac awdur y mis Llyfrgelloedd Cymru Ionawr 2022 Manon Steffan Ros o Feirionnydd, ac enillydd Gwobr Tir na n’Og 2021 Casia Wiliam o Wynedd.
Mae’n anrhydedd fawr cael fy enwebu ar gyfer rhestr lyfrau Gaeaf Llawn Lles, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i ddarllen fy ngwaith. Mae llyfrau wastad wedi bod yn gwmni ardderchog ac yn ffrindiau ffyddlon i mi, felly mae cael fy nghynnwys ar y rhestr hon yn golygu llawer iawn,” meddai Manon, y mae ei chyfrol Fi ac Aaron Ramsey, stori dau ffrind wrth i Gymru gyrraedd yr Ewros yn 2020, ar y rhestr o’r 25 llyfr sy’n codi calon.
Cyrhaeddodd Sw Sara Mai arobryn Casia Wiliam y rhestr fer hefyd, stori gyfoes am ferch tua 9 oed o’r enw Sara Mai sy’n cael ei magu yn sw ei rhieni, ac sy’n ei chael hi’n haws deall ymddygiad y creaduriaid hynod sy’n byw yno na’r merched eraill yn ei dosbarth.
Meddai Casia, “Dwi’n dotio ar Sara Mai, fel cymeriad mae hi’n dod â llawer o lawenydd i mi, felly rydw i wrth fy modd yn clywed bod Sw Sara Mai wedi dod â llawenydd i eraill hefyd. Does dim byd yn well na phlentyn yn dweud wrtha i ei fod wedi mwynhau darllen llyfr rydw i wedi ei ysgrifennu, felly rydw i wrth fy modd bod Sw Sara Mai wedi cyrraedd y rhestr.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa, Garmon Gruffudd, “Fel cyhoeddwyr rydym ni wrth ein bodd, yn enwedig gan fod y llyfrau wedi’u henwebu gan blant a phobl ifanc, sy’n profi bod yr awduron wedi taro tant.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, nod ymgyrch Gaeaf Llawn Lles yw helpu plant a phobl ifanc i wella o’r pandemig, ac mae’n gwneud gwyrthiau mewn siroedd ledled Cymru.
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi ymuno â’r Asiantaeth Ddarllen ar gyfer y dathliad tymhorol hwn o ddarllen, y buddion y mae’n eu hyrwyddo a grym llyfrgelloedd lleol i helpu plant i ailgysylltu â’i gilydd a’u cymuned. Bydd yn parhau hyd at ddiwedd mis Mawrth gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu darparu ar-lein ac mewn llyfrgelloedd.

Dyma’r rhestr lawn o’r 25 llyfr i godi calon a enwebwyd gan blant a phobl ifanc:


• Rain before Rainbows gan Smriti Halls a lluniau gan David Litchfield
• Sharing a Shell gan Julia Donaldson a lluniau gan Lydia Monks / Fersiwn Gymraeg: Croeso I’n Cragen
• Sometimes I feel…SUNNY gan Gillian Shields a lluniau gan Georgie Birkett  / Fersiwn Gymraeg: Weithiau Dwi’n Teimlo’n Heulog
• One Snowy Night gan Nick Butterworth
• Sw Sara Mai gan Casia Wiliam a lluniau gan Gwen Millward
• Daydreams and jellybeans – barddoniaeth gan Alex Wharton a lluniau gan Katy Riddell
• While We Can’t Hug gan Eoin McLaughlin a lluniau gan Polly Dunbar
• The Pond gan Nicola Davies a Cathy Fisher / Fersiwn Gymraeg: Y Pwll
• Aubrey and the Terrible Yoot gan Horatio Clare a lluniau gan Jane Matthews
• Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros
• Future Friend gan David Baddiel a lluniau gan Steven Lenton
• Seaglass gan Eloise Williams
• Hello universe gan Erin Entrada Kelly
• Black and British: A Forgotten History gan David Olusoga a lluniau gan Jake Alexander a Melleny Taylor
• The Infinite gan Patience Agbabi
• You are a Champion: How to be the best you can be gan Marcus Rashford a Carl Anka
• The School for Good and Evil gan Soman Chainani
• A Kind of Spark gan Elle McNicoll
• Scrambled gan Huw Davies / Fersiwn Gymraeg: Sgramblo
• The Girl from the Sea gan Molly Knox Ostertag
• Can You See Me gan Libby Scott a Rebecca Westcott
• October, October gan Katya Balen a lluniau gan Angela Harding
• Coming up for Air gan Tom Daley
• War Horse gan Michael Morpurgo / Fersiwn Gymraeg: Ceffyl Rhyfel
• The Boy, The Mole, The Fox and The Horse gan Charlie Mackesy / Fersiwn Gymraeg: Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl

I gael dolenni i wylio digwyddiadau diweddar a gwybodaeth am bopeth sy’n digwydd tan ddiwedd mis Mawrth, cliciwch yma.

Back To Top