Blwyddyn wych i Raglen Aml-chwaraeon 0-7 Oed Datblygu Chwaraeon Aura
Drwy gydol y flwyddyn hon, mae rhaglen aml-chwaraeon 0-7 Oed Datblygu Chwaraeon Aura wedi parhau i ddatblygu a thyfu, gan ddarparu amrywiaeth o weithgareddau i blant yn Sir y Fflint.
Esboniodd Bethan Conway, Cydlynydd Chwaraeon Ysgolion a’r Gymuned: “Rydyn ni wedi cael blwyddyn wych o sesiynau, ac wedi gweld y rhaglen yn tyfu’n sylweddol. Yn 2021, gwelsom 67 o blant yn mynychu 403 o weithiau ar draws y rhaglen; mae 172 o blant wedi mynychu 1,368 o weithiau yn 2022! Mae’r gwahaniaeth hwn wedi dod o ehangu ein rhaglen fel ein bod bellach yn cael 7 sesiwn wythnosol mewn 5 lleoliad gwahanol ar draws y sir.
Eleni, rydyn wedi gweld plant yn dysgu sut i gerdded, rhedeg, neidio a datblygu eu sgiliau echddygol oherwydd y gweithgareddau amrywiol ac arloesol yn y sesiynau. Rydyn ni hefyd wedi gweld plant yn symud ymlaen o’n dosbarth 0-3 Rhiant a Phlentyn i’n clwb Aml-chwaraeon 4-7 oed.
Mae cyfleoedd i weithio gyda gwahanol feysydd gwasanaeth a sefydliadau dros y flwyddyn yma hefyd wedi bod yn uchafbwynt i’r tîm sy’n rhedeg y rhaglen. Wrth edrych yn ol yn, dywedodd Bethan: “Roeddem yn gyffrous i weithio ar y rhaglen Ffitrwydd, Bwyd a Darllen dros yr haf, a roddodd fwy o gyfleoedd i deuluoedd ymgysylltu â’r rhaglen a hyrwyddo ein sesiynau. Wrth i’r flwyddyn ddod i ben rydyn ni wedi cael dau ymweliad gan Mari o Cymraeg i Blant Sir y Fflint. Wnaeth Mari darllen a chanu i’r plant yn Gymraeg, a byddwn yn parhau i annog y rhieni i fynychu ei sesiynau yn llyfrgelloedd Aura.
Rydyn ni wrth ein bodd bod ein sesiynau Rhieni a Phlant 0-3 oed yn gysylltiedig â llyfrgelloedd Aura, a bob amser yn mwynhau amser stori ar y diwedd. Mae straeon yn ffordd wych o annog symudiad corfforol felly mae’r bartneriaeth hon yn ffordd wych ar gyfer datblygiad corfforol, yn ogystal â bondio rhiant a phlentyn.”
Wrth edrych ymlaen at yr hyn sydd o’n blaenau, dywedodd Bethan: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn datblygu ymhellach yn y Flwyddyn Newydd ac yn bwriadu cyflwyno Dosbarth 0-3 Nain/Taid a Phlentyn Bach mewn partneriaeth â rhaglen 60+ Aura. Rydyn ni hefyd yn bwriadu lansio dosbarth Aml-chwaraeon 4-7 ychwanegol mewn lleoliad newydd.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Aml-chwaraeon 0–7 Aura yma.