Canolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yn croesawu Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry ar gyfer Gaeaf o Weithgareddau Lles
Mae Aura Cymru yn falch o groesawu disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry yn ôl sydd wedi bod yn ymweld â Chanolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau Lles y Gaeaf. Mae’r ymweliadau hyn wedi bod yn ffordd wych i gyflwyno’r plant i’r adnoddau hamdden a llyfrgell sydd ar gael iddyn nhw, a hybu pwysigrwydd lles.
Ers mis Ionawr, mae plant o bob grŵp blwyddyn wedi ymweld â’r ganolfan hamdden a’r llyfrgell i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau. Mae’r plant wedi rhoi cynnig ar Barc Bownsio Aura a’r Parc Sglefrio ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai dawnsio gwych gydag Eleni Cymru. Maent hefyd wedi mwynhau sesiwn amser stori arbennig ychwanegol gyda Mama G yn y llyfrgell ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai collage gyda Simon Grennan, nofelydd graffig lleol.
Mae Gordon Rodger-Burns o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry, Lee Breeze, Swyddog Datblygu Canolfan Hamdden, Paula Jones, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell a Liz Gilligan, Cymhorthydd Llyfrgell Aura a leolir yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy o fewn y Ganolfan Hamdden, i gyd wedi chwarae rhan allweddol yn trefnu gweithgareddau.
Yn gwneud sylw ar lwyddiant yr ymweliadau, dywedodd Lee: “Mae’r gweithgareddau Lles y Gaeaf, wedi eu cyfuno gydag ymweliadau blaenorol ysgolion cyn y pandemig yn rhan o berthynas gymunedol barhaus yr ydym yn ei datblygu gyda’n gilydd. Blaenoriaeth Aura yw rhoi budd i’r gymuned ac rydym yn gobeithio drwy groesawu plant lleol i’r llyfrgell a’r ganolfan hamdden y gallwn gael effaith gadarnhaol ar eu lles”.
Dywedodd Liz hefyd: “Mae wedi bod yn wych gweld plant ac athrawon Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry yn ymweld â ni eto. Mae’n wych gweld y plant mor gyffrous yn ymweld â’r llyfrgell ac yn benthyg llyfrau! Maent wrth eu bodd yn cael eu cerdyn llyfrgell eu hunain ac yn mwynhau archebu eu llyfrau ar ein “peiriant hud”! Allwn ni ddim aros i’w croesawu yn ôl unwaith eto yn fuan am fwy o hwyl yn y llyfrgell.”
Mynegodd Mr Rodger-Burns ei frwdfrydedd, gan ddweud: “Mae wedi bod yn wych ailgysylltu â’r plant yn y gweithgareddau sydd ar gael yn y ganolfan hamdden a’r llyfrgell. Mae hefyd mor hanfodol i ysgolion ddarparu profiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac mae’r gefnogaeth gan Aura a’r tîm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wirioneddol wedi ein helpu ni i wneud hyn. Mae’r plant ym mhob grŵp blwyddyn wedi bod mor gyffrous i fynd i’r llyfrgell a’r ganolfan hamdden ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn clywed beth maent wedi’i fwynhau a gweld eu gwên.”
Ychwanegodd Paula: “Rydym wedi gallu dangos i’r plant bod darllen yn ddechrau’r antur yng Nghanolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy; roedd y disgyblion wedi creu eu comics eu hunain, mwynhau sesiynau dawns thema a dewis llyfrau o’n llyfrgell sydd wedi’i hailwampio yn ddiweddar. Fel rhan o’r fenter Lles y Gaeaf roeddem hefyd yn gallu rhoi copi rhodd Cymraeg a Saesneg i’r disgyblion o The Boy, The Mole, The Fox and The Horse / Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl i’w darllen gartref. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ysgol yn ôl ar gyfer ein Sialens Ddarllen yr Haf!”
Dymuna Aura ddiolch i Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry am ymweld â ni ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’r ganolfan hamdden eto yn fuan iawn.