Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cynnal Lansiad Rhestr Lyfrau Cymru ‘Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau’
I gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, lansiodd yr Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a Libraries Connected, restr lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau newydd sbon. Mae’r rhestr gynhwysfawr o deitlau’n cynnwys deunydd darllen a argymhellir i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ddeall a siarad am eu hiechyd meddwl a’u lles.
Roedd Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy’n falch i gynnal seremoni’r lansiad swyddogol ar gyfer Cymru a gwahoddodd gydweithwyr o ystod eang o sectorau i fod yn bresennol a dathlu cyflwyno’r adnodd newydd, gwerthfawr hwn. Cafodd myfyrwyr o ysgolion lleol hefyd eu gwahodd i ddod i’r lansiad, pori drwy deitlau’r llyfrau, ymweld â Llyfrgell Glannau Dyfrdwy, a mwynhau prynhawn ym mharc bownsio Aura.
Dywedodd Kate Leonard, Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd Aura ac arweinydd Iechyd a Lles Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Roedd Aura yn hynod o falch o gynnal lansiad cenedlaethol Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau ar gyfer Cymru yma yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Roedd yn hyfryd gallu arddangos yr adnodd gwerthfawr hwn i’n cydweithwyr o bob cwr o’r rhanbarth ac â’r gweithwyr proffesiynol iechyd, addysg a gofal cymdeithasol sy’n gweithio mor galed i gefnogi lles ein pobl ifanc yn eu harddegau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yr hyn y bu’n fwyaf gwerthfawr oedd y cyfle i rannu’r adnoddau hyn â’r bobl ifanc eu hunain: mae’r rhestr hon wedi’i chynllunio ar eu cyfer nhw, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei rhannu’n ehangach a chefnogi pobl ifanc yn eu harddegau yn Sir y Fflint i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles yn well”.
Roedd y prif siaradwyr ar y diwrnod yn cynnwys; Debbie Hicks a Gemma Jolly o’r Asiantaeth Ddarllen, Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych a chynrychiolydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, Arwel Jones o Gyngor Llyfrau Cymru, a Sophie Gorst, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru. Roedd yr awdur a’r podledwr Emma Goswell hefyd yn bresennol a rhannodd ddetholiad o’i chyfrol Coming Out Stories: un o’r teitlau sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr lyfrau.
Mae’r cynllun Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau yn rhan o raglen Darllen yn Well genedlaethol ehangach wedi’i ddarparu gan yr Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae rhestrau llyfrau Darllen yn Well eraill yn cynnwys teitlau ar gyfer plant iau, iechyd meddwl a byw â dementia. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddarparu deunydd darllen defnyddiol i gefnogi pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles. Mae Darllen yn Well yn rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth sydd â’i hansawdd wedi’i sicrhau, ac mae’r casgliadau i gyd wedi’u cydgynhyrchu â phobl â phrofiad bywyd. Caiff y rhestrau eu creu i roi cefnogaeth yn y camau cynnar ac nid ydyn nhw’n disodli ymyrraeth glinigol.
Mae’r rhestr lyfrau newydd wedi’i thargedu at bobl ifanc yn eu harddegau (13-18 oed), ac mae’n cynnwys 27 o deitlau ac ystod o adnoddau digidol ategol sy’n darparu gwybodaeth a chyngor sydd â’u hansawdd wedi’u sicrhau i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ddeall eu teimladau’n well, ymdopi â phrofiadau anodd a magu hyder. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u dewis yn ofalus gan banel o arbenigwyr iechyd, llyfrgellwyr, a phobl ifanc yn eu harddegau â phrofiad bywyd ledled Cymru a Lloegr. Mae rhai o’r llyfrau a argymhellir yn awgrymu technegau hunangymorth defnyddiol; ceir hefyd straeon personol, llyfrau graffig, a ffuglen. Mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth o bynciau yn cynnwys rheoli teimladau, niwroamrywiaeth, delwedd corff, profedigaeth, gor-bryder cymdeithasol, dysgu am fywyd, magu hyder, goroesi ar-lein, a rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd ac iechyd meddwl.
Mae’r teitlau Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau ar gael i unrhyw un eu benthyg o lyfrgelloedd Aura a gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau eu hargymell hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y casgliad Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau, cysyllttwch â’ch llyfrgell leol yma.