Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Cyrtiau tennis wedi’i hadnewyddu yn ail-agor yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug yn Hydref 2024

Mae Aura Cymru yn falch o gyhoeddi ailddatblygiad pedwar cwrt tennis sydd wedi’u lleoli ar gampws Ysgol Uwchradd Alun / Canolfan Hamdden yr Wyddgrug.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ac Ysgol Uwchradd Alun, mae Aura yn goruchwylio ailddatblygiad y cyrtiau tennis presennol i gyfleuster aml-ddefnydd ar gyfer pêl-fasged, pêl-rwyd a thennis, gan gynnwys arwyneb chwarae newydd, pedwar cwrt tennis gyda physt a rhwydi newydd, dau gwrt pêl-fasged ‘3 yn erbyn 3’ gyda physt, byrddau cefn a chylchoedd, un cwrt pêl-rwyd gyda physt newydd, ynghyd â ffens a goleuadau newydd.

Mae’r gwaith gwella yn cael ei ariannu gan Brosiect Cydweithrediad Cyrtiau Chwaraeon Cymru sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad ac ehangu mynediad trwy fuddsoddi mewn cyrtiau i adfywio a chreu gofod a rennir ar gyfer pêl-fasged, pêl-rwyd a thennis mewn lleoliadau cymunedol diogel a chynhwysol.

Dywedodd Tom Williams, Rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug: “Rydym yn gyffrous iawn am y buddsoddiad gan Chwaraeon Cymru sy’n ein galluogi ni i gefnogi twf pêl-fasged a phêl-rwyd ar y safle, yn ogystal â gallu cynnig y defnydd o’r cyrtiau tennis i’n cwsmeriaid am y tro cyntaf ers 2019.

“Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i Gyngor Sir y Fflint a’r Ysgol Uwchradd am gydweithio, a chael gweledigaeth a rennir, sydd wedi ein galluogi ni i sicrhau cyllid allanol gwerthfawr i ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau a chyfleoedd chwaraeon ar gyfer preswylwyr lleol i ymgysylltu mewn gweithgareddau corfforol.”

Yn siarad ar ran Ysgol Uwchradd Alun, dywedodd Stacey Bullick, y Rheolwr Cyfleusterau: “Bydd ail-ddatblygu’r cyrtiau tennis presennol i gyfleuster aml-ddefnydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Alun ac Ysgol Uwchradd Maes Garmon.

“Gyda dros 2,000 o ddisgyblion ar draws y ddwy ysgol uwchradd, mae’r gallu i gynnig cyfleoedd chwaraeon a chorfforol amrywiol yn hanfodol i wella iechyd a lles ein disgyblion. Mae nifer o ddisgyblion yn rhoi cynnig ar chwaraeon am y tro cyntaf yn yr ysgol ac yna’n mynd ymlaen i chwarae ar gyfer tîm yr ysgol neu glwb lleol yn y gymuned, lle maent yn parhau i ddatblygu sgiliau hanfodol gan gynnwys arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwytnwch. Yn ystod amser lle mae technoleg yn aml y prif ddewis ar gyfer adloniant, mae gallu cynnig dewisiadau ar gyfer gwella iechyd wrth gael hwyl, yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol.”

Mae gwaith adeiladu ar y cyrtiau wedi digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol, gyda disgwyl i’r cyfleuster aml-ddefnydd newydd agor yr Hydref hwn.

Back To Top