Canolfannau Hamdden
Mae ein canolfannau hamdden yn cynnig rhywbeth i bawb gan gynnwys sglefrio iâ, nofio, ffitrwydd, sba, bowlio deg, bowlio lawnt werdd, pêl-droed a phartïon plant!
Gallwch archwilio’r hyn sydd ar gael yn ein cyfleusterau ym Mwcle, Glannau Dyfrdwy, y Fflint a’r Wyddgrug drwy ymweld â thudalen pob canolfan hamdden drwy’r teils isod.
Dilynwch ni ar:
Canolfan Sglefrio
Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn gartref i’r unig ganolfan sglefrio yng Ngogledd Cymru ac mae’n lleoliad hyfforddi ar gyfer enwogion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Dancing on Ice ar ITV.
Pyllau Nofio
Yn ein tri phwll ym Mwcle, y Fflint a’r Wyddgrug gallwch fwynhau trochi yn y dŵr gyda ffrindiau neu ymuno â’r miloedd o blant sydd eisoes yn rhan o’n rhaglen Dysgu Nofio.
Nofio Cyhoeddus
Mae gennym ystod o sesiynau pwll i weddu i bawb, o hwyl teuluol i nofio lôn a dosbarthiadau ymarfer yn y dŵr. Waeth beth yr ydych ei eisiau, mae gan Aura sesiwn berffaith ar eich cyfer.