Ffitrwydd
Croeso i Gampfeydd Aura! O hyfforddiant magu cryfder i hyfforddiant cardiofasgwlaidd, craidd a gweithredol – mae popeth yma.
Mae ein hyfforddwyr ffitrwydd cymwys yma i’ch tywys drwy eich profiad yn y gampfa, beth bynnag fo’ch nod. Fe fyddan nhw’n teilwra rhaglenni ymarfer i ateb eich anghenion unigol a’ch tywys trwyddynt gyda chyfarwyddyd arbenigol a diogel, ac yna bydd adolygiadau rheolaidd wrth i chi symud ymlaen a dechrau gweld canlyniadau!
Dilynwch ni ar:

AELODAETH
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i ymuno gan gynnwys Debyd Uniongyrchol misol sy’n gost effeithiol, yn ogystal â mynediad dyddiol ac Arbed 10 i’r rhai sy’n llai sicr o’i hymrwymiad tymor hir.
Unwaith y byddwch yn aelod gydag Aura, cewch fynediad i bob campfa – yng Nglannau Dyfrdwy, Y Fflint, Yr Wyddgrug a Bwcle – yn rhan o’ch aelodaeth.
Mae Aura hefyd yn cynnig dewis helaeth o ddosbarthiadau ymarfer grŵp i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ffitrwydd. Mae ein dosbarthiadau yn hwyliog, yn ysgogi ac yn ysbrydoli, gan roi amrywiaeth i’ch ymarfer corff!
Rhowch wybod i ni os ydych angen unrhyw help i benderfynu pa ddosbarth sydd orau i chi!
SUT YDW I’N YMUNO Â CHAMPFA AURA?

Ystafell Ffitrwydd
Glannau Dyfrdwy
01352 704240

Ystafell Ffitrwydd
Y Fflint
01352 704308

Ystafell Ffitrwydd
Yr Wyddgrug
01352 704333

Ystafell Ffitrwydd
Bwcle
01352 704290
ORIAU AGOR YSTAFELLOEDD FFITRWYDD
Glannau Dyfrdwy
Y Fflint
Yr Wyddgrug
Bwcle
Hefyd yn agored dydd Llun-dydd Gwener, 8:00am-5:30pm, yn ystod gwyliau’r ysgol