Chwalu Rhwystrau a Mynd yn Groes i Bob Disgwyl: hanes rhyfeddol y nofwraig ifanc arbennig, Heidi Rogerson
Ar ôl cael gwybod sawl gwaith “na fyddai hi byth yn gallu nofio”, mae’r ferch ifanc 14 oed o’r Fflint, Heidi Rogerson, wedi mynd yn groes i bob disgwyl ac wedi “gwibio drwy” raglen Dysgu i Nofio Aura ac wedi datblygu i fod yn nofwraig ragorol ac un o aelodau mwyaf newydd Clwb Nofio’r Fflint.
Cafodd Aura Cymru’r pleser o gael sgwrs gyda Heidi a’i mam, Alison, am siwrnai nofio ragorol Heidi a’i nodau ar gyfer y dyfodol.
Eglurodd Alison: “pan roedd Heidi’n 3 mis oed, cafodd ddiagnosis o ddysplasia datblygol yn ei chlun. Roedd hyn yn golygu nad oedd hi’n gallu symud na chropian fel babi. Yn dilyn profion pellach, derbyniodd ddiagnosis o syndrom Ehlers–Danlos: cyflwr colagen sy’n achosi datgymaliadau. Dros y blynyddoedd, mae hi hefyd wedi derbyn diagnosis o syndrom Beals-Hecht, parlys yr ymennydd, cefnwyrni, a syndrom camaliniad gresynus.” O ganlyniad, mae Heidi wedi cael sawl llawdriniaeth dros y blynyddoedd, a dywedwyd na fyddai hi byth yn gallu ymgymryd â gweithgareddau megis nofio.
Dechreuodd ei siwrnai ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint 4 blynedd yn ôl, pan roedd Heidi’n 10 oed. Eglurodd Alison: “Holais am wersi nofio i blant anabl a chwrddais â’r Cydlynydd Nofio ar y pryd, a anogodd Heidi i ddechrau ar y rhaglen dysgu i nofio cyn gynted â phosibl ar ôl gweld Heidi yn y dŵr. Symudodd o’r rhaglen nofio i bobl anabl i wersi’r brif ffrwd, a dydi hi heb edrych yn ôl ers hynny. Mae hi wedi cwblhau pob Ton yn y rhaglen nofio ac wedi ein synnu ni gyd. Yn dilyn cyfnod prawf, mae Heidi bellach yn aelod o’r clwb nofio.”
Roedd angerdd a brwdfrydedd Heidi yn amlwg yn y sgwrs a gawsom gyda hi am nofio. Dywedodd Heidi, “nofio yw fy niddordeb pennaf, ac rwy’n hoff o’r dull nofio ar y bol yn arbennig. Rwy’n dysgu dulliau troi ar hyn o bryd. ” Pan ofynnwyd beth hoffai hi ei gyflawni yn y dyfodol, atebodd Heidi â balchder: “hoffwn fod yn nofwraig Baralympaidd rhyw ddiwrnod.”
Roedd Alison yn canmol y tîm ym Mhafiliwn Jade Jones, gan ddweud bod: “Pawb wedi bod yn hynod o gefnogol, ac mae’r tîm yn y ganolfan hamdden wedi bod yn hollol wych. Mae plant anabl yn wynebu nifer o rwystrau, a gobeithiaf y bydd Heidi’n ysbrydoli plant eraill i gyflawni eu nodau. Fel ei mam, rwy’n hynod o falch ohoni hi. ”
Dywedodd Wes Billings, Cydlynydd Nofio ym Mhafiliwn Jade Jones, y bydd yn “chwith heb Heidi yn y gwersi nofio”, a dywedodd ei fod: “wedi bod yn bleser dysgu Heidi a’i gweld yn datblygu yn y pwll. Mae nod hirdymor Heidi o fod yn nofwraig Baralympaidd wedi rhoi cymhelliant a phenderfyniad iddi weithio’n ddiflino dros y blynyddoedd i wella ei sgiliau nofio.
Mae hi wedi chwalu rhwystrau a mynd yn groes i bob disgwyl; rwy’n falch iawn fy mod wedi cyfrannu at ei siwrnai nofio, ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i weithio’n galed i gyflawni ei phrif nod. Diolch Heidi! Mae pawb ym Mhafiliwn Jade Jones yn falch iawn ohonot ti.”
Hoffai tîm Aura ddiolch i Heidi ac Alison am sgwrsio gyda ni a rhannu hanes ysbrydoledig Heidi. Hoffem ddymuno pob lwc i Heidi ar ei nodau ac edrychwn ymlaen i weld beth ddaw yn y dyfodol!
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am wersi nofio gydag Aura, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at swim@aura.wales