Gemau 5×60


Cynhaliodd Llysgenhadon Ifanc Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Datblygu Chwaraeon Gemau 5×60 Merched yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddydd Mercher, 20 Mawrth. Prif nod y diwrnod oedd annog merched nad oedd yn cymryd rhan i roi cynnig ar wahanol weithgareddau a chymryd rhan. Roedd yna dros 140 o ferched yn cymryd rhan yn y digwyddiad o ysgolion uwchradd ar draws Sir y Fflint a ddewiswyd gan Swyddogion Chwaraeon a Chwaraeon Cymunedol. Roedd pob unigolyn wedi derbyn Cerdyn Aura i fonitro eu gweithgaredd ar ôl y digwyddiad i weld yr effaith a gafodd y diwrnod arnynt.
Roedd y Llysgenhadon Ifanc wedi paratoi, darparu, cefnogi NGB ac annog cyfranogwyr i gadw’n heini ar y diwrnod, roedd y gweithgareddau’n cynnwys: Pêl Foli/Hwla Hwpio, Golff, Criced, Gymnasteg, Trampolinio, Pêl-rwyd, Rygbi, Kinball, Bocsiomarfer a disgo sglefrio iâ i orffen. Yn ystod y dydd, roedd Dan Williams ac Emma Jones o Gemau Stryd Cymru wedi gofyn i’r cyfranogwyr nodi pa fath o weithgareddau yr oeddent yn dymuno eu mynychu yn y gymuned a pha feysydd fyddai ar gael iddynt, o ganlyniad maent wedi sefydlu 2 ganolfan chwaraeon cymunedol newydd i ferched.
Gwirfoddolwyr Aura yn cefnogi Pêl-Rwyd Cymru
Dydd Sadwrn 8 Rhagfyr 2018 fe gynhaliodd Pêl-Rwyd Cymru eu digwyddiad Cyn Tymor blynyddol ar gyfer y Dreigiau Celtaidd yn erbyn Manchester Thunder yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Rhoddodd Llysgenhadon Ifanc a Gwirfoddolwyr Academi Arweinyddiaeth i Dîm Datblygu Chwaraeon Aura eu hamser i gefnogi’r digwyddiad.
Cyn y gêm roedd cyfle i ffans gwrdd y chwaraewyr, gofyn cwestiynau a thynnu lluniau.
Bu’r gwirfoddolwyr yn gwneud amrywiaeth o rolau gan gynnwys
- Cefnogi Cwrdd y Chwaraewyr
- Dangos i ffans i ba ardaloedd i fynd
- Gosod pethau yn eu lle cyn y gêm
- Gwerthu Nwyddau
- Gwerthu Rhaglenni
- Casglu Tocynnau
- Dangos i ffans lle i eistedd
- Gwneud yn siŵr nad oedd ffans yn mynd i Ardaloedd Newid y Chwaraewyr
- A llawer mwy
Cafodd y gwirfoddolwyr eu briffio gan Sarah Paler – Arweinydd Gweithrediadau’r Dreigiau Celtaidd – a diolchwyd iddynt i gyd gan Sarah o flaen llaw am eu cefnogaeth.