C’mon Cymru! Gŵyl Cwpan y Byd i Ysgolion Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Trefnodd tîm Datblygu Chwaraeon Aura ddwy Ŵyl Cwpan y Byd i Ysgolion Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yr wythnos ddiwethaf.
Roedd 300 o blant o ysgolion cynradd yn bresennol ddydd Llun. Wnaeth y disgyblion hefyd creu baneri gwych i gefnogi a dathlu Tîm Cymru. Mynychodd 100 o ddisgyblion uwchradd ddydd Mawrth i gymryd rhan mewn gemau pêl-droed, ac wedyn sesiwn hwyliog yn y Parc Chwyddadwy.
Dywedodd Beth Conway a Will Broster, Cydlynwyr Chwaraeon Ysgol a Chymunedol, ar ran tîm Datblygu Chwaraeon Aura: “Mae wedi bod yn wych gwahodd ysgolion lleol i gymryd rhan yn ein Gŵyl Cwpan y Byd. Daeth 28 o ysgolion cynradd â 38 o dimau, ac addurno mynedfa Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy gyda’u baneri bendigedig. Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Golftyn: y tîm buddugol. Diolch yn fawr iawn hefyd i Macron am noddi’r digwyddiad.
Daeth pum ysgol uwchradd â naw tîm o fechgyn a naw o ferched i’r ŵyl ac i fwynhau ymweliad â Pharc Chwyddadwy Aura hefyd. Diolch arbennig i fyfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Alun yn yr Wyddgrug a ddaeth draw i ddyfarnu’r digwyddiad.
Mae wedi bod yn anhygoel gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn mwynhau chwarae pêl-droed ac yn mynd mor gyffrous i weld Cymru yng Nghwpan y Byd eleni. Mae’r digwyddiadau hyn wedi bod yn ffordd wych o ddathlu!”
Hoffai holl dîm Aura ddiolch i bawb a drefnodd ac a gyfrannodd at ein Gŵyl Cwpan y Byd i Ysgolion a gobeithio bod pawb oedd yn bresennol wedi mwynhau eu gemau pêl-droed. Dewch yn ôl i ymweld â ni eto yn fuan!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein sesiynau a gwersylloedd pêl-droed.