Cyhoeddi enillwyr Sir y Fflint o gronfa gwerth £120mil ar gyfer prosiectau cymunedol lleol
Cyhoeddwyd yr enillwyr o Sir y Fflint o gronfa arbennig gwerth £120,000 i helpu cymunedau ar draws Gogledd Cymru mewn seremoni bwrpasol yn y White House, Rhuallt, Sir Ddinbych ddydd Mercher, 29 Mawrth.
Mae’r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cefnogi prosiectau llawr gwlad ac yn cael ei gefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Ar ôl llunio’r rhestr fer, gofynnwyd i gyhoedd Gogledd Cymru bleidleisio ar gyfer eu hoff brosiectau a chafwyd dros 16,000 o bleidleisiau ar draws y rhanbarth mewn pleidlais ar-lein.
Roedd y gwobrau eleni yn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol gan fod Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed penblwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae cyfanswm o dros £500,000 wedi’i ddyrannu i fwy na 150 o brosiectau sy’n gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chefnogi’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Daw’r cyllid ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn rhannol o arian a atafaelwyd gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, gyda gweddill y cyllid yn dod gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd. I gydnabod y garreg filltir hon o ddeng mlynedd, mae’r cyllid sydd ar gael i brosiectau buddugol eleni yn cynyddu i gyfanswm o £120,000, wedi’i rannu ar draws 25 o brosiectau.
Hamdden Aura Cymru – Prosiect Addysg ac Ymgysylltu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Ieuenctid
Roedd Aura Cymru yn un o grwpiau Sir y Fflint gyda phrosiect llwyddiannus o bleidlais y cyhoedd.
Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc sydd wedi’u nodi fel rhai ‘mewn perygl’ gan bartneriaid prosiect a bydd yn cynnwys sesiynau gan yr heddlu, cŵn cyffuriau, timau cyffuriau ac alcohol, gwasanaeth ieuenctid a gweithgareddau wedi’u harwain gan y tîm datblygu chwaraeon a bydd yn helpu i gefnogi pobl ifanc i ddeall y risgiau presennol y gallant fod yn gysylltiedig â nhw.
Dywedodd Dan Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon yn Aura Cymru: “Mae Aura yn falch o dderbyn y grant gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd trwy’r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Bydd y grant yn ein helpu ni i gefnogi pobl ifanc yn Sir y Fflint, gan ddarparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwrthdyniadol a gweithdai addysgiadol sy’n mynd i’r afael â materion cyfredol y mae pobl ifanc o bosibl yn eu hwynebu neu y maent mewn perygl o fod yn gysylltiedig â nhw.”
I ddysgu mwy am PACT ewch i https://www.pactnorthwales.co.uk/cy/ ac i ddysgu mwy am waith Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ewch i https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy