Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Aura Cymru yn sicrhau cyllid ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae £2,000 wedi ei ddyfarnu i dîm Datblygu Chwaraeon Aura Cymru gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i hybu ymgysylltiad cymunedol a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yn Sir y Fflint.

Trwy gynllun ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’, mae canolfannau chwaraeon Aura wedi derbyn cyllid er mwyn cefnogi eu hymdrechion yn ardal Glannau Dyfrdwy ymhellach. Fe chwaraeodd Thomas Maddocks, Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, ran ganolog yn hwyluso’r cyfle ariannu hwn drwy amlygu ymdrechion cydweithio presennol sydd wedi helpu i yrru newid cadarnhaol o fewn y gymuned.

Cafwyd cefnogaeth ariannol ychwanegol hefyd gan fenter gyllido Heddlu Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Gymunedol (PACT), wedi ei arwain gan Dave Evans, rheolwr PACT. Bydd y cyfraniad ariannol hwn yn gyfrwng i gynnal canolfannau chwaraeon cymunedol Aura ar hyd a lled Sir y Fflint, gan sicrhau cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden sydd ar gael ar garreg eu drws.

Yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Chwefror 2024, cynrychiolwyd Aura gan ddau o’i Gydlynwyr Chwaraeon Ysgol a Chymunedol, Josh McEwan a Daniel Font, a dderbyniodd y siec am gyllid ar ran y tîm Datblygu Chwaraeon. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad ynghyd â’u cydweithwyr yn y tîm Datblygu Chwaraeon wedi bod yn ganolog i sicrhau’r cyllid ac i lwyddiant ehangach y canolfannau chwaraeon cymunedol a’r effaith cadarnhaol maent wedi ei gael ar fywydau pobl ifanc.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae cefnogi cymunedau yn rhan allweddol o fy nghynllun ar gyfer plismona a mynd i’r afael â throsedd yn y rhanbarth ac mae ein cymunedau yng Ngogledd Cymru yn lleoedd gwydn a gofalgar. Sefydliadau fel Aura Cymru yw asgwrn cefn y cymdogaethau hyn, maent yn camu i mewn ac yn cymryd camau ddydd ar ôl dydd i helpu a chefnogi eu cymunedau ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu gwaith.”

Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT: “Mae ‘Ein Cymuned, Eich Dewis’ yn ymwneud yn llwyr â helpu cymunedau a galluogi sefydliadau ac unigolion i wneud gwahaniaeth i breswylwyr lleol. Rydym i gyd yn gyfoethocach o ganlyniad i’w gwaith. Mae’r cyllid ar gyfer y fenter hyd yn oed yn fwy arbennig o ganlyniad i’r ffaith y daw yn rhannol o arian a feddiannwyd gan droseddwyr, sy’n golygu ei fod yn cael ei dalu’n ôl i’r bobl. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Aura Cymru eleni ac rwy’n gobeithio y bydd yr arian a ddyfarnwyd yn parhau i wneud gwahaniaeth am amser hir i ddod.”

Dywedodd Sian Williams, Rheolwr Datblygu Hamdden Aura: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a PACT. Bydd y cyllid yn ein galluogi ni i ehangu ein cyrhaeddiad a’r effaith yng nghymuned Glannau Dyfrdwy ac mae’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden. Mae ein canolfannau cymunedol yn cynrychioli dyhead Aura i gefnogi cymuned fwy cysylltiedig yn Sir y Fflint sy’n galluogi unigolion ifanc i arwain ffordd egnïol o fyw a gwireddu eu llawn botensial.”

Llun (o’r chwith i’r dde):
Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Josh McEwan a Daniel Font, Aura Cymru, Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, a Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru.

Back To Top