Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Cyllid wedi’i sicrhau i wneud Canolfannau Hamdden Aura yn fwy ynni effeithlon

Mae gennym ni newyddion da i’w rannu! Yn ddiweddar dyfarnwyd £144,000 i Aura Cymru yn dilyn cais llwyddiannus i Chwaraeon Cymru i gael grant ar gyfer gwaith defnyddio ynni’n effeithlon a fydd yn helpu ein canolfannau hamdden i leihau eu hôl troed carbon.

Mae Aura, fel pob darparwr hamdden ar draws Cymru, ar hyn o bryd yn wynebu cynnydd nas gwelwyd ei debyg o’r blaen mewn costau nwy a thrydan, a chroesewir y cyllid grant hwn er mwyn helpu Aura i fynd i’r afael â’r prisiau cynyddol mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol. Nod Aura yw lleihau cost y cyfleustodau sy’n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau chwaraeon yn y gymuned.

Mynegodd Sian Williams, Rheolwr Datblygu Hamdden, ei brwdfrydedd ar ran holl dîm Aura, gan ddweud: “Rydym yn hynod o falch fod ein cais am gyllid grant wedi bod yn llwyddiannus ac y byddwn yn gallu buddsoddi’r swm sylweddol hwn, a ddyfarnwyd gan Chwaraeon Cymru, mewn ffordd unigryw sy’n wahanol i’n gwaith cyfalaf arferol. Rydym yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth i chwaraeon yn y gymuned a bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau hamdden yn ogystal â gwella canlyniadau amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Meddai Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Rydym bob amser yn awyddus i glywed syniadau ein partneriaid ar sut i wneud gweithgareddau chwaraeon yn fwy cynaliadwy, felly rydym wrth ein boddau ein bod yn dyfarnu’r cyllid grant hwn tuag at oleuadau newydd a fydd yn lleihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyfleusterau hamdden yn Sir y Fflint. Nid yn unig y bydd y datblygiad hwn yn gwneud y cyfleusterau’n fwy amgylcheddol gyfeillgar, ond bydd hefyd yn lleihau effaith y cynnydd mewn costau ynni ar chwaraeon yn y gymuned.”

I gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru, ewch i: www.chwaraeon.cymru

Back To Top