Aura Cymru i dderbyn ‘trydan am ddim am chwe wythnos y flwyddyn’ yn dilyn cynllun buddsoddi arloesol i leihau allyriadau carbon
Yn ddiweddar, mae Aura Cymru wedi cwblhau’r gwaith o weithredu rhaglen effeithlonrwydd ynni gynhwysfawr ar ôl gwneud cais a fu’n llwyddiannus ym mis Ebrill 2023 am bron i £300,000 o gyllid grant gan Chwaraeon Cymru ar gyfer prosiectau lleihau allyriadau carbon.
Trwy integreiddio technolegau blaengar gan gynnwys goleuadau LED, paneli ffotofoltäig, uwch systemau rheoli adeiladau ac inswleiddio, mae Aura wedi gallu trawsnewid ei effeithlonrwydd gweithredol gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a lleihau carbon ar yr un pryd.
Mae cyflwyno goleuadau LED ynni-effeithlon i ddisodli goleuadau traddodiadol wedi galluogi canolfannau hamdden Aura, nid yn unig i leihau eu defnydd o ynni, ond i wella profiad y cwsmer gan fod bylbiau LED yn darparu gwell golau. Maent hefyd yn para’n hirach sy’n lleihau’r angen am waith cynnal a chadw parhaus.
Mae datblygiadau mewn systemau rheoli adeiladau wedi cynorthwyo Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, sef cyfleuster mwyaf Aura, i wneud y defnydd gorau o ynni ar draws ei isadeiledd, yn enwedig o fewn y Ganolfan Sglefrio. Trwy ddulliau monitro amser real a rheolaethau awtomataidd, gall y Ganolfan Sglefrio bellach reoleiddio’r systemau tymheredd iâ, awyru a chyflyru aer yn effeithiol, gan sicrhau cysur i ymwelwyr a defnyddio llai o ynni. Mae’r safle yng Nglannau Dyfrdwy hefyd wedi croesawu datrysiadau ynni adnewyddadwy drwy osod paneli ffotofoltäig (PV) ar ei safle. Trwy harneisio pŵer ynni solar, amcangyfrifir y bydd y paneli PV hyn yn cynhyrchu dros 224,000 kWh y flwyddyn o drydan glân a thrwy hynny yn lleihau ôl troed carbon y Ganolfan drwy arbed 105,000 kg o garbon y flwyddyn.
Mae effaith gosod paneli PV i Aura, mewn termau real, yn cyfateb i chwe wythnos o drydan am ddim y flwyddyn. Mae’r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd yn agos â nod Aura i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru sero net erbyn 2050.
Dywedodd Sian Williams, Rheolwr Datblygu Hamdden Aura: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y mesurau effeithlonrwydd ynni hyn wedi’u rhoi ar waith yn llwyddiannus. Drwy drosoli technolegau arloesol a ffynonellau ynni adnewyddadwy, rydym nid yn unig yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ond hefyd yn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer ein cwsmeriaid gwerthfawr yng nghymuned Sir y Fflint nawr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Mike Welsh, Prif Weithredwr Aura: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai hynod o heriol i’r sector hamdden o ran rheoli costau uchel digynsail cyfleustodau ac roedd angen dull trawsnewidiol o reoli ynni. Mae Aura wedi croesawu’r her hon a, thrwy ei weithlu ymroddedig, wedi ceisio datrysiadau arloesol i wella cynaliadwyedd a lleihau ein hôl troed carbon. Mae mentrau fel y rhain yn sail i ethos y sefydliad i ddarparu dyfodol cynaliadwy i’w gwsmeriaid a thrigolion lleol.”
Gwnaethpwyd y grant a ddyfarnwyd i Aura yn bosibl trwy gyllid a ddyrannwyd i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Wrth siarad ar ran Chwaraeon Cymru, dywedodd y Prif Weithredwr Brian Davies: “Mae’r argyfwng costau byw, ynghyd â’r argyfwng hinsawdd, yn golygu bod angen mwy dybryd nag erioed cefnogi cyfleusterau canolfannau hamdden cyhoeddus sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
“Bydd y gwelliannau arbed ynni yng nghanolfannau hamdden Aura yn Sir y Fflint yn lleihau costau rhedeg hirdymor yn sylweddol, gan alluogi’r cyfleusterau i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol a pharhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i bobl leol. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn cynhyrchu arbedion carbon sylweddol, gan helpu i gefnogi targedau newid hinsawdd Cymru.”
Lluniau: Paneli PV yn cael eu gosod ar do Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Queensferry.