Beth yw Cyfeiriannu?
Chwaraeon awyr agored anturus a chyffrous yw cyfeiriannu sydd yn gwneud i’r meddwl a’r corff weithio. Y nod yw teithio rhwng pwyntiau gwirio neu reolfeydd sydd wedi’u marcio ar fap cyfeiriannu arbennig. Nid oes yna lwybr penodol, felly fe ddaw’r sgil a’r hwyl o geisio dod o hyd i’r ffordd orau o deithio!
Ble alla’ i Gyfeiriannu?
Parc Gwepra
Mae modd gwneud hyn eisoes ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ac fe fydd modd gwneud YN FUAN yng Nghastell y Fflint, Dyffryn Maes Glas a Shotton.
Mae yna nifer o byst cyfeiriannu i’w darganfod ar draws Parc Gwepra. Mae mapiau ar gael o’r ganolfan ymwelwyr neu o hysbysfyrddau ar y safle.
Llwybr y Ddraig Dyffryn Maes Glas
Mae Llwybr y Ddraig yn llwybr milltir o hyd lle gallwch chi ddilyn arwyddion i gwblhau milltir ddyddiol. Mae’n weithgarwch corfforol a chymdeithasol lle gall cyfranogwyr gerdded, jogio, rhedeg neu deithio ar olwynion wrth eu pwysau eu hunain.
Fe fydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i unrhyw un sydd wedi gorffen naill ai Cyfeiriannu neu Lwybr y Ddraig 10 gwaith. Bydd tystysgrifau a gwobrau pellach ar gael i’r rhai sy’n eu cwblhau 30 neu 50 gwaith.
I DDOD YN FUAN: Y Fflint, Shotton a Gwepra