Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Dewch draw i gymryd rhan mewn Her Rwyfo Elusennol yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Mae’r tîm Ffitrwydd Aura yn edrych ymlaen at gynnal a chymryd rhan mewn Her Rwyfo Elusennol ar 23 Ebrill 2022 a drefnwyd gan aelodau’r gampfa Kelly Eyre a Naomi Hughes.

Mae Kelly a Naomi wedi bod yn aelodau yn y gampfa ers dros 12 mlynedd ac maent yn wynebau cyfeillgar i bawb yn Ystafell Ffitrwydd Glannau Dyfrdwy. Yn ddiweddarach eleni, byddant yn cymryd rhan mewn Her Afon Zambezi i godi arian ar gyfer Cats Protection. I’w helpu i hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth am Cats Protection a’u Her Zambezi, bydd Kelly a Naomi yn treulio 12 awr ar rwyfwr, o 7:00am tan 7:00pm, y tu allan i’r fynedfa i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
I baratoi ar gyfer yr her hon, mae Kelly a Naomi wedi bod yn hyfforddi yn y gampfa yn defnyddio pwysau, cymryd rhan mewn llawer o ddosbarthiadau ffitrwydd ac wrth gwrs, treulio llawer o amser ar y peiriannau rhwyfo.
Eglurodd Kelly: “Mae’r Her Afon Zambezi yn cynnwys rhwyfo i lawr yr Afon Zambezi am 4 diwrnod mewn canŵ. Rydym yn gobeithio cynnwys pellteroedd o hyd at 28km y dydd tra’n osgoi hipos a chrocodeilod, yna gwersylla ar wely’r afon gyda’r bywyd gwyllt.
Mae ein teulu a’n ffrindiau eisoes yn meddwl ein bod yn wallgof, felly nid yw’n syndod iddyn nhw ein bod am ymdrechu i rwyfo am 12 awr! Bydd yn gymaint o her hwyliog, yn arbennig os bydd aelodau eraill o’r gampfa a’r tîm Aura gwych yn ymuno â ni ar ail rwyfwr. Mae’r prosiectau ‘Gwarchod Cathod’ a gefnogir gan Cats Protection yn cael gymaint o effaith ar wella lles gymaint o gathod ar y stryd, felly mae gallu cyfrannu at y gwaith hwn yn golygu gymaint.”
Roedd Naomi yn mynegi ei brwdfrydedd i gymryd rhan hefyd a dywedodd: “Mae rhwyfo am 12 awr yn bendant yn mynd i fod yn her! Rydym wedi dechrau rhwyfo yn y gampfa am gyfnodau o hanner awr ac rwy’n meddwl y gallwn ymdopi’n iawn ond pan mae’n dechrau ychwanegu drwy gydol y dydd, gall fod yn stori wahanol! Os oes yna unrhyw un yn dymuno dod draw i’n cefnogi, boed i’n hannog ymlaen neu i roi cynnig ar yr ail rwyfwr, byddem yn ddiolchgar iawn.”
Roedd Alan Duppa, Goruchwyliwr Ffitrwydd yn Ystafell Ffitrwydd Glannau Dyfrdwy yn mynegi ei gefnogaeth ar ran y tîm Aura cyfan, gan ddweud: “Anaml mae Kelly a Naomi ar wahân pan maent yn ymweld â’r gampfa ac mae’n hwyl bod yn eu cwmni. Ar ôl siarad gyda nhw am y digwyddiad codi arian hwn, roeddwn yn hapus ac yn gyffrous iawn i gefnogi’r her hon. Rwyf wrth fy modd eu bod yn gwneud hyn i gefnogi Cats Protection ac wedi fy rhyfeddu gan eu gwaith caled. Mae’r tîm Ffitrwydd Aura cyfan yn edrych ymlaen at gefnogi Kelly a Naomi gyda’u her rhwyfo 12 awr a gobeithio y bydd llawer o aelodau’r gampfa, cydweithwyr ac ymwelwyr â Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn ymuno i’w hannog ymlaen.”

Os hoffech gyfrannu ac archebu slot hanner awr, gallwch anfon e-bost at Kelly:k.eyre88@icloud.com

 

Back To Top