Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Digwyddiad gydag Awdur yn Llyfrgell yr Wyddgrug: Richard King yn sgwrsio â David Hanson

Mae Tîm Llyfrgelloedd Aura yn falch o gynnal digwyddiad gydag awdur yn Llyfrgell yr Wyddgrug mewn partneriaeth â Siop Lyfrau’r Wyddgrug. Bydd yr awdur Richard King yn ymuno â David Hanson am noson o drafodaeth fywiog am ei lyfr diweddaraf ar 30 Mawrth am 7.00pm.

Mae llyfr diweddaraf Richard King Brittle with Relics yn llyfr am Gymru yn nhraean olaf yr ugeinfed ganrif a phrofiadau o effeithiau cydamserol dad-ddiwydiannu, a’r frwydr am ei hiaith a hunaniaeth. Dywedir yr hanes drwy leisiau Neil Kinnock, Rowan Williams, Leanne Wood, Michael Sheen, gweithredwyr y Gymraeg, a llawer mwy, dyma hanes arwyddocaol cenedl sy’n benderfynol o oroesi, wrth gynnal y gobaith y bydd Cymru un diwrnod yn ffynnu ar ei thelerau ei hun.

Mynegodd Susannah Hill, Rheolwr y Llyfrgell, ei chyffro ar ran y tîm Aura, a dywedodd: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynnal y digwyddiad hwn yn Llyfrgell yr Wyddgrug ac i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau ar draws Sir y Fflint mewn llyfrgelloedd Aura amrywiol mewn partneriaeth gyda Siop Lyfrau’r Wyddgrug. Mae digwyddiadau gydag awduron bob amser yn gyffrous a gobeithiwn y bydd pawb sy’n bresennol yn mwynhau’r noson.”

Mae tocynnau yn £5 a gellir eu prynu yn Llyfrgell yr Wyddgrug neu yn Siop Lyfrau’r Wyddgrug; gellir hefyd eu cyfnewid yn erbyn cost llyfr. I gael gwybodaeth, cysylltwch â Llyfrgell yr Wyddgrug ar 01352 703780 neu anfonwch e-bost at mold.library@aura.wales

Back To Top