Dod i adnabod y Tîm Nofio Aura: Dyma Flo!
Yn ddiweddar croesawodd Aura Wales Flo Vickery i’r Tîm Nofio Aura; mae Flo yn athrawes nofio o fewn ein rhaglen nofio Nofwyr Bach ar gyfer babanod a phlant bach. Rhannodd Flo ei meddyliau gyda ni am ei rôl newydd, pwysigrwydd hyder yn y dŵr o oed cynnar, a pham ei bod yn caru dysgu babanod a phlant bach ar y rhaglen Nofwyr Bach Aura.
Fe eglurodd: “Dw i’n mwynhau nofio ac fe dyfais i fyny yn nofio gyda chlwb lleol drwy gydol fy mhlentyndod. Dw i’n athrawes gynradd cymwys ac wedi gweithio gyda phlant a babanod am oddeutu 12 mlynedd. Dwi wrth fy modd yn helpu babanod a phlant bach i ddatblygu eu hyder yn y dŵr a datblygu sgiliau newydd. Mae’n wych eu gweld nhw’n cael hwyl yn chwarae yn y pwll a helpu i sicrhau fod mwy o blant yn dysgu diogelwch dŵr o oedran cynnar.”
Mae Nofwyr Bach yn rhaglen dysgu nofio sydd wedi’i ddylunio yn arbennig ar gyfer babanod a phlant bach hyd at 3 oed, gyda’r nod o helpu i ddatblygu symudiadau sylfaenol a sgiliau craidd mewn amgylchedd y dŵr. Eglurodd Flo: “Yn ystod sesiynau Nofwyr Bach rydym yn canu caneuon, cael hwyl, datblygu hyder yn y dŵr, dysgu am ddiogelwch yn y dŵr a hyrwyddo perthynas cryf rhwng yr oedolyn a phlentyn mewn amgylchedd y dŵr.”
Mae prif fuddion y sesiynau yn cynnwys, yng ngeiriau Flo, “adeiladu hyder yn y dŵr gyda phlant a’u hoedolion, datblygu diogelwch yn y dŵr a chael hwyl yn chwarae yn y pwll”. Mae’r sesiynau hefyd yn fuddiol ar gyfer “gwella’r berthynas rhwng yr oedolyn a’r plentyn mewn amgylchedd y dŵr, a helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, dysgu sgiliau bywyd pwysig a gwella arferion cysgu a bwyta”.
Mae Nofwyr Bach gan Aura yn fan cychwyn gwych i gyflwyno “sgil bywyd pwysig” yn gynnar, ac yn gyfle gwych i blant ifanc a’u teuluoedd fwynhau’r dŵr gyda’i gilydd a chreu atgofion ar hyd y ffordd.
I gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â Nofwyr Bach gan Aura, anfonwch e-bost at swim@aura.wales